Gŵr o Geredigion; yn ôl llythyr ganddo at Howel Harris (Trevecka Letter 100, 20 Awst 1737), yr oedd yn gâr i Evan Davies (1694? - 1770), athro academi Caerfyrddin. Ar adeg anhysbys, trosglwyddodd ei aelodaeth eglwysig o Grug-y-maen, Ceredigion, i'r Fenni. Yn rhestrau'r Dr. John Evans, yn 1718, enwir rhyw ' Rice Davies ' fel gweinidog lle anhysbys o'r enw ' Cromindee,' ond erbyn 1724 yr oedd Rees Davies yn bugeilio'r gynulleidfa yn y Goetre a gododd gapel ym mhlwyf Llanofer (gan roi'r enw gwlatgar ' Hanover ' arno) yn 1744. [Yr un oedd Cynulleidfa ' Cromindee ' (a ' Comb du') a Chynulleidfa ddiweddarach (1744) ' Hanover ' (Isaac Thomas, yn y Cofiadur, 1958, 12-13).] Dywedir fod Davies yn ddyn cefnog (yn sicr, fe briododd yn dda), o addysg dda. Yn ei lythyr at Howel Harris, amlygai deimladau da at Harris ac at Griffith Jones, Llanddowror; ond yn ôl y cyfeiriadau mynych (a surion) ato yn nyddlyfrau Philip David, 'yr oedd wedi gwagio'i gapel' - ond fe'i gwaddolodd yn hael. Bu farw ym mis Medi 1767, yn 73 oed - claddwyd ef yn Hanover gan Philip David, 22 Medi.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.