Ganwyd yn 1692 yn y Derllysg gerllaw Caerfyrddin, yn fab i amaethwr cefnog. Yr oedd yn un o ddisgyblion cyntaf Thomas Perrott; gadawodd yr academi yn 1724, a chredir iddo wedyn fod yn weinidog yn West Looe, Cernyw. Yn 1735, galwyd ef i fugeilio eglwys Heol Awst, Caerfyrddin, a chadwai hefyd ysgol ramadeg. Ond yn 1743, pan symudwyd yr academi eilwaith i Gaerfyrddin, gwahoddwyd Samuel Thomas i gynorthwyo Evan Davies ynddi - noder na ddiddymwyd yr ysgol, ac iddi barhau, mewn cyswllt â'r academi, hyd 1845; felly pan ddarllenwn fod rhyw weinidog wedi bod dan addysg 'yng Nghaerfyrddin,' nid yw bob amser yn dilyn iddo fod yn yr academi. Ymddengys mai gŵr sychlyd, yn y pulpud ac yn y ddarlithfa, oedd Samuel Thomas - cwyna Thomas Morgan ('Henllan') ar ei naws oeraidd. Yr oedd yn Armin ar y lleiaf, onid yn wir yn Ariad. Ni wingodd ei eglwys yn erbyn hynny; eto dengys ei chofnodion mai bechan a marwaidd oedd hi ar derfyn ei 30 mlynedd fel gweinidog. Eithr fel athro, poenai ei olygiadau lawer ar y Bwrdd Cynulleidfaol; ac ar ôl sawl ymdrech ofer i gael gan Evan Davies gael gwared ohono, penderfynodd y Calfiniaid (1757) agor academi iddynt eu hunain yn y Fenni. Ymadawodd Evan Davies â Chymru yn 1759, a rhoes y Bwrdd Presbyteraidd lywodraeth yr academi i Samuel Thomas, a Jenkin Jenkins yn gynorthwywr iddo; dan y ddeuddyn hyn sefydlogwyd nodwedd 'anuniongred' yr academi. Yn ôl pob tystiolaeth, yr oedd Samuel Thomas yn athro trylwyr a chydwybodol, ac yr oedd safon dysg yr academi'n gydnabyddedig uchel yn ei ddwylo. Ymddeolodd yn 1764, a bu farw 7 Medi 1766, 'yn 74 oed' meddai ei faen coffa yn Heol Awst.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.