Ychydig dros ben o ffeithiau pendant sydd gennym amdano. Y dyddiad sad cyntaf o'i yrfa yw 1711, pan oedd yn academi Samuel Jones yn Tewkesbury; tystia llythyr (Gibbons, Memoirs of Isaac Watts, 346) gan Secker (a ddaeth wedyn yn archesgob Caergaint) fod Griffiths yn ieithydd da, a chwanega 'He seems to be not much under 40.' Digon posibl fod dyfaliad Secker yn ormod; ond ar y llaw arall y mae'r ' 1698 neu 1699 ' a nodir yn gyffredin fel blwyddyn geni Griffiths yn codi anawsterau dirfawr - yn ei wneud, e.e., yn weinidog pan nad oedd ond 16 neu 17 oed. Y mae pob awgrym mai ym mhlwyf Bugeildy (sir Faesyfed) y ganed ef, a gall yn hawdd mai'r Maesgwyn oedd hendref ei deulu. Yn rhestrau'r Dr. John Evans, c. 1715, enwir Vavasor Griffiths yn drydydd o dri gweinidog cynulleidfa (sylweddol) Maesgwyn; ond efallai na urddwyd mohono cyn 1726, oblegid yn y flwyddyn honno (ar ôl gwrthod yn 1725) y mae'r Bwrdd Presbyteraidd yn dechrau talu £6 y flwyddyn iddo fel bugail yr eglwys. Yn y cyfamser (1722, fan ddiweddaraf), yr oedd yn cadw ysgol yn ei dŷ, ysgol waddoledig yr oedd ei hathro i gael £10 y flwyddyn (efallai fwy) allan o rent y tyddyn - wrth gwrs, yr oedd y tyddyn ei hunan hefyd yn help iddo. Yn Chwefror 1733-4 gofynnodd y Bwrdd Presbyteraidd iddo gymryd at academi Caerfyrddin ar ôl marw Perrott, ond gwrthododd, ar sail gwendid iechyd. Eto, y mae'n eglur ei fod eisoes yn cymryd disgyblion hŷn, i'w hyfforddi at y weinidogaeth - gydag ef yr oedd Lewis Rees, e.e. yn 1734. Yn 1735 bodlonodd Griffiths i gais y Bwrdd, ar yr amod fod yr academi'n cael ei symud, nid, mae'n wir, i'r Maesgwyn (er ei fod ef yn dal i fyw ac i weinidogaethu yno), ond i'r Llwynllwyd yn ymyl y Gelli, a'i chyfuno â'r ysgol a gedwid yno eisoes gan David Price, gweinidog Maesyronnen. Ymunodd y Bwrdd Cynulleidfaol yn y cynllun hwn, gan dalu £5 y flwyddyn yn ychwaneg i Griffiths fel gweinidog Maesgwyn, heblaw'r £10 yr un a dalai'r byrddau iddo fel athro. Yn 1736 neu 1737 symudodd Griffiths i fyw i Chancefield ar odre Talgarth, ond daliai i fugeilio Maesgwyn ac i addysgu yn Llwynllwyd yn ogystal ag yn Chancefield. Jenkin Jenkins a Richard Price yw ei ddau ddisgybl mwyaf adnabyddus (y mae'n amheus iawn a fu ef yn athro ar Howel Harris ac ar Williams Pantycelyn - tebycach mai David Price oedd eu hathro hwy); ond nid Griffiths sy'n gyfrifol am Ariaeth y ddeuddyn a nodwyd, oblegid Calfin pendant oedd ef, onid e ni buasai Edmund Jones mor delynegol yn ei ganmoliaeth iddo. Yr oedd wedi ymddiswyddo o'i Academi cyn 8 Rhagfyr 1740. Bu farw (meddai Llyfr y Cilgwyn, gweler Cofiadur, i, 29) yn 1741. Y mae gennym lythyr o'i eiddo at Howel Harris (T.L. 267, 18 Awst 1740), ac y mae sawl cyfeiriad mawrygol ato yn nyddlyfrau Harris. Diamau mai ef yw'r 'Vavasor Griffiths, Esq.' a adawodd yn ei ewyllys (1741) £20 i ficer a wardeiniaid Bugeildy (Jonathan Williams, Hist. of Radnorshire, ail arg., 210) at ddibenion elusennol.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.