Cywiriadau

JONES, SAMUEL (bu farw 1719), athro academi Ymneilltuol

Enw: Samuel Jones
Dyddiad marw: 1719
Priod: Judith Godwin (née Weaver)
Rhiant: Malachi Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athro academi Ymneilltuol
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Na chymysger ef â Samuel Jones o Frynllywarch. Mab oedd ef i Malachi Jones, gweinidog a ymfudodd i Bennsylfania ac a fu farw yno yn 1728. Yr oedd rhyw Malachi Jones yn weinidog yn ochrau Cymreig sir Henffordd yn 1690, ac yno fyth yn 1696 (Gordon, Freedom after Ejection); os hwn oedd tad Samuel Jones, y mae'n anodd credu gyda Gordon i Samuel gael ei eni 'yn America, tua 1680.' Gwyddys fod gan Samuel Jones ddau nai; un ohonynt oedd JEREMIAH JONES (1693 - 1724), gweinidog ac athro academi (etifeddodd academi ei ewythr Samuel) a beirniad o gryn fri yn ei ddydd ar y Testament Newydd; y mae ysgrif dda arno gan Gordon yn y D.N.B., a dywedir yn honno mai mab oedd i David Jones (a fu farw 1718) o Langollen, disgybl a mab-yng-nghyfraith (1687) i Samuel Jones, Brynllywarch. Ni ddywedir pa un ai brawd neu frawd-yng-nghyfraith i David Jones oedd Malachi Jones, ond y mae'n eglur eu bod yn fwy neu lai cyfoed; felly amheus iawn yw barn Walter Wilson (Monthly Repository, 1809) i Malachi Jones ymfudo i America 'dan orthrwm Siarl II.' Anfonwyd Samuel Jones i academi'r Fenni dan Roger Griffith. Pan droes Griffith at yr Eglwys Wladol (1702), honnir i'r academi, a Samuel Jones gyda hi, gael ei symud i Knill yn sir Faesyfed, dan ofal John Weaver, ond camsyniad yw hynny am y naill a'r llall; i Amwythig, dan addysg James Owen, yr aeth Samuel Jones, ac ar farwolaeth James Owen (1706) aeth i Brifysgol Leiden yn Holland. Dychwelodd i Brydain yn 1708, i gychwyn academi yng Nghaerloyw - fe'i symudodd yn 1712 i Tewkesbury. Lleygwr oedd Samuel Jones, ac ysgolhaig gwych, yn bennaf (ond nid yn unig) yn y clasuron a'r Hebraeg, er na chyhoeddodd unpeth. Bu iddo ddau ddisgybl enwog iawn, yr archesgob Thomas Secker a'r esgob Joseph Butler, yr athronydd. Rhydd Secker, mewn llythyr at Isaac Watts (1711), adroddiad diddorol o'r llafur a'r ysgolheictod a nodweddai'r academi hon, a chlod uchel i'r athro - ond mewn man arall dywed ei fod yn llymeitian gormod, a'i fod erbyn diwedd ei oes wedi mynd yn ddiog, ac yn afrywiog ei dymer. Y mwyaf hysbys o ddisgyblion Cymreig Samuel Jones yw Vavasor Griffiths. Ni wyddys union ddyddiad ei farw. Enw ei wraig oedd Judith Weaver (gweler Godwin, Judith - ailbriododd ag Edward Godwin); honnir yn fynych, ond ar gam, ei bod hi'n ferch i'r John Weaver uchod.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

JONES, SAMUEL (bu farw 1719)

Yr oedd Malachi Jones eto fyth yn ochrau Henffordd yn 1704. Yn llyfr William Davies, The Tewkesbury Academy (d.d. - tua 1905?), ceir y manylion ychwanegol a ganlyn: yng ngwanwyn 1712 y symudodd Jones i Tewkesbury. Ymosodwyd ar ei dŷ yno yn 1714, ar ddydd coroni Siôr I. Y mae cerdd ddychan ar Tewkesbury'n ei alw yn 'Gamaliel sage, of Cambrian breed'. Annibynnwr oedd ef ac ni chafodd fyfyrwyr ar law'r 'Presbyterian Fund Board' cyn 1714. Bu farw 11 Hydref 1719; yn ôl carreg ei fedd (y tu allan i gangell yr Abaty). Yr oedd yn 37 neu 38.

Hefyd, yn ôl NLW MSS 10327B (Walter J. Evans), yr oedd ganddo nai arall, Joshua (bu farw 1740), gweinidog yn Nailsworth ac ym Manceinion, a nith, a ymbriododd â rhyw Jackson, ac a gafodd fab, Samuel - addysgwyd hwn yn y Llwyn-llwyd, ac fel ei ewythredd bu'n weinidog yn Nailsworth.

Y mae'n bosibl i Samuel Jones adael Amwythig yn 1704, a bwrw blwyddyn yn Moorfields, dan Chauncey, cyn mynd i Leiden (Cofiadur 1958, 10, 20-1).

Awdur

  • Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, (1881 - 1969)

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.