Ganwyd, gellid meddwl, yn y Fenni. Yn 1690-2 yr oedd dan addysg yn Bishop's Hall, Bethnal Green, ar draul y 'Gronfa Gyffredin' (Bresbyteraidd a Chynulleidfaol); yr oedd Charles Owen (gweler yr ysgrif arno) yno gydag ef. Aeth wedyn i Brifysgol Utrecht (Holand), eto ar draul y gronfa. Tua 1695 urddwyd ef yn weinidog y Fenni; ac ar farwolaeth Samuel Jones Brynllywarch yn 1697, symudodd y Bwrdd Presbyteraidd (eithr nid y Bwrdd Cynulleidfaol) ei fyfyrwyr i'r Fenni dan ofal Griffith; rhyw bump neu chwech oedd ohonynt (yn eu plith bu Samuel Jones, Tewkesbury' a Thomas Perrott yno), ac yr oedd gair da iawn i'r academi. Yn 1698 dechreuodd Griffith amlygu gogwydd at yr Eglwys Wladol, ac yn 1702 ymddiswyddodd a chydymffurfiodd. Rhoes y Goron iddo reithoraeth Maesyfed Newydd, efallai mor gynnar â 1704 - ond yn ôl Jonathan Williams (History of Radnorshire), o 1706 hyd 1708 y bu yno. Edrydd Yardley iddo ar 9 Hydref 1704 gael ei sefydlu'n archddiacon Brycheiniog, ar benodiad y Goron (nid oedd ar y pryd esgob yn Nhyddewi), a thrwy ddylanwad Robert Harley, iarll Rhydychen wedyn, a oedd ar y pryd yn aelod seneddol dros Faesyfed. Y mae Edmund Calamy (a oedd yn Utrecht gyda Griffith) yn gofidio'n ddigon naturiol am enciliad Griffith, ac yn chwanegu iddo farw'n ddyledog a dibarch; ac y mae Yardley 'n terfynu ei nodyn sychlyd iawn arno â'r geiriau: 'Bu farw ym mis Hydref 1708, a chladdwyd ef yn eglwys Fair yn y Fenni, ond nid oes unrhyw faen coffa iddo - yn ôl rhestr blwyfol Maesyfed bu farw 'yn fuan ar ôl 10 Hydref.' Rhydd Yardley iddo'r radd o ' B.D. - efallai mai hon yw'r B.D. er anrhydedd a roes Prifysgol Caergrawnt i ryw 'Roger Griffith' yn 1705 (Venn, Alumni Cantabrigienses).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.