REES, LEWIS (1710 - 1800), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: Lewis Rees
Dyddiad geni: 1710
Dyddiad marw: 1800
Priod: Esther Rees (née Penry)
Plentyn: Abraham Rees
Rhiant: Rees Edward Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ganwyd 2 Mawrth 1710, yn Glynllwydrew, Blaen Glyn Nedd, Morgannwg, mab Rees Edward Lewis, ac ŵyr i offeiriad plwyf Penderyn. Cefnodd ei dad ar Eglwys Loegr, a magwyd y mab yn y ffydd Ymneilltuol. Addysgwyd yn ysgol Blaengwrach dan ofal Henry Davies, y gweinidog, ac yn ysgolion Joseph Simmons, Abertawe, Rice Price, Tyn-ton, ac academi Maesgwyn. Derbyniwyd ef yn aelod yn Blaengwrach, a dechreuodd bregethu yno. Ar gymhelliad Edmund Jones a'i athro, Vavasor Griffiths, aeth i gymryd gofal yr achos bychan yn y Tŷ Mawr, Llanbrynmair. Llafuriodd yn ddyfal yno, heb ei urddo, o 1734 hyd 1738. Urddwyd ef yn Blaengwrach ar 13 Ebrill 1738. Adeiladwyd yr Hen Gapel, Llanbrynmair, yn 1739. Symudodd i Maesyronnen, Brycheiniog, yn 1745; ond dychwelodd i Lanbrynmair yn 1748 megis wedi ei eneinio o'r newydd at ei waith. Gafaelodd tân y diwygiad yn ei ysbryd. Casglodd eglwys gref yn Llanbrynmair a swcro egin-ganghennau'r Hen Gapel. Ymwelodd â pharthau Gwynedd i efengylu, a dioddefodd erlid creulon. Lewis Rees a agorodd ddrws a rhoi eli penelin i Howel Harris i ddod i'r gogledd am y tro cyntaf. Yn 1759, symudodd i Tirdoncyn, Llangyfelach, Morgannwg, lle y treuliodd weddill ei oes yn fawr ei afiaith bregethu. Pregethai yn un o oedfeuon cymanfa bregethu Caerfyrddin gyda'i fab, Dr. Abraham Rees, ychydig cyn marw. Bu farw 21 Mawrth 1800. Yr oedd yn un o bregethwyr mwyaf ei gyfnod, goddefgar ei ysbryd, llydan ei farn. Cyfunid yn ei bersonoliaeth ‘synhwyrfryd doeth’ yr Hen Annibynwyr coeth a llewyrch cynnes goleuadau mawr y Diwygiad Methodistiaid. Yn ôl cofnodion y Bwrdd Cynulleidfaol derbyniai roddion blynyddol bron yn ddifwlch o 1742 hyd 1781.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/