SIMMONS, neu SIMONS, JOSEPH (1694? - 1774), gweinidog gyda'r Annibynwyr ac athro ysgol

Enw: Joseph Simmons
Dyddiad geni: 1694?
Dyddiad marw: 1774
Plentyn: Noah Simmons
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr ac athro ysgol
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd tua 1694 yn Foxhole, Llansamlet; bu yn academi Caerfyrddin dan Perrott. Yn 1724 urddwyd ef yn weinidog cynorthwyol dan Roger Howell yng Nghwmllynfell a'r Gellionnen. Yr oedd yn cadw ysgol yng Nghastell Nedd yn 1730, ysgol y bu Lewis Rees ynddi - bu Howel Harris yn aros noson yn Awst 1738 gyda ' Jos. Symons, near the Abbey at Neath.' Dywedir iddo, pan fu farw Rees Price yn 1739, gymryd at ei academi yn Nhynton; ond erbyn 1741 sut bynnag yr oedd ganddo ysgol yn Abertawe. Calfin oedd Simmons; enwir ef gan Edmund Jones yn 1741 (Trevecka Letter 362) fel un o'r gweinidogion Ymneilltuol a gefnogai'r Diwygiad Methodistaidd, a phwysodd Edmund Jones ar Thomas Morgan ('o Henllan') i fynd i'r ysgol at 'Mr. Seimons at Swanzey' yn hytrach nag at Samuel Jones, Pen-twyn, ansad ei Galfiniaeth. I academi Galfinaidd y Fenni yr anfonodd Simmons ei fab ef ei hunan, ac yr oedd Edmund Jones yn bresennol yn urddiad hwnnw - ond digiodd yr ' Hen Broffwyd ' (gweler ei ddyddlyfr, 1789, yn N.L.W.) pan gymerth Joseph Simmons ran yn urddiad yr Armin Edward Evan yn Aberdâr. Yn 1750 symudodd Simmons ei drigfan o Hendreforgan i Lansamlet, i fugeilio eglwys Castell Nedd, ar y pryd yng nghapel Chwarelau-bach; arolygai'r achos yn Sgiwen hefyd. Codwyd capel Maes-yr-haf yn 1772, ac ar agoriad hwnnw urddwyd Noah Simmons (a fu yn academi'r Fenni, 1768-72) yn gynorthwywr i'w dad. Bu Joseph Simmons farw'n ddisyfyd yn Abertawe, 12 Mai 1774. Dilynwyd ef gan ei fab Noah, a bu hwnnw ym Maes-yr-haf hyd 1794, pan ymadawodd i America yn herwydd gwrthwynebiad rhai o'i bobl iddo; ni wyddys pa bryd y bu ef farw.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.