Gwr fel y tybir o sir Gaerfyrddin ac o deulu cefnog; gellid barnu oddi wrth ei lythyrau fod ganddo berthnasau ym Mrycheiniog, tua'r Cerrig-cadarn efallai. Tystia ei ysgrifen a'i Saesneg cywir iddo gael addysg foreol dda, ac yn ôl y Wilson MSS. yn llyfrgell y Dr. Williams bu yng Nghaerfyrddin dan William Evans. Tua 1718 urddwyd ef yn weinidog Blaen Gwrach yng Nglyn Nedd, a chadwai ysgol yno; dan ei weinidogaeth ef y magwyd Lewis Rees. Ond ymhoffai'n ddiflino mewn pregethu teithiol, fel eraill o'r ysgol newydd 'genhadol' o weinidogion Ymneilltuol; cenhadai drwy holl Flaenau Morgannwg (ac yn wir mewn cylch lletach fyth), gan sefydlu eglwys yn Llanharan (tua 1734) a threiddio i gymoedd Rhondda. Tua 1738, cefnodd ar Flaen Gwrach, sefydlodd eglwys yng Nghymer Rhondda, a chododd gapel yno (cafodd brydles yn 1743) sydd eto'n cael ei ddefnyddio - y capel Ymneilltuol cyntaf yng Nghwm Rhondda; yn Eirw (Hafod) y gwnâi ei gartref. Bu farw trwy foddi (O. Morgan, History of Pontypridd and the Rhondda Valleys, 286) tua Rhyd-yr-Eirw; gwylltiodd ei geffyl a bwriwyd yntau i'r afon, yng Ngorffennaf 1766, yn 70 oed - y mae'r dydd o'r mis ar garreg ei fedd wedi treulio, ac nid oes gofnod arall (Yn ôl dyddiadur William Thomas (Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, 1949, 46) 28 Gorffennaf oedd dydd ei farw - ond anhygoel braidd yw'r oedran (84) a briodola Thomas iddo). Bu farw ei weddw yn 1772, yn 77 oed. Cyhoeddodd J. Rufus Williams (yn Llangollen, 1840) bigion allan o lyfr poced a fu'n eiddo iddo, dan y teitl Hen Lyfr H.D., gyda rhagair sy'n cynnwys manylion amseryddol hwylus. Cydredai gyrfa deithiol Henry Davies â dechreuadau Methodistiaeth yng Nghymru, a chydweithredodd yntau'n galonnog â hi - efallai yn herwydd cysylltiadau lleol. Yr oedd yn un o'r gweinidogion Ymneilltuol a wahoddodd Howel Harris i Forgannwg; ymwclai â Threfeca; yn wir, parhaodd i gydweithio â'r Methodistiaid yn hwy nag unrhyw weinidog Ymneilltuol arall yng Nghymru ac eithrio Edmund Jones. Mynychai'r sasiynau Methodistaidd hyd 1744; gwyddom iddo ohebu â Harris hyd 1750 beth bynnag. Y mae 20 o'i lythyrau at Harris ar gael (rhestr a detholion yn Y Cofiadur, 1935), llythyrau cyfeillgar cynnes, yn dangos cydnabyddiaeth â phrif Fethodistiaid Calfinaidd Cymru a Llundain, ac ag Ymneilltuwyr 'Efengylaidd' yn Lloegr.
Dylid sylwi ar ddisgynyddion Henry Davies (O. Morgan, op. cit., 286-8) gan fod eu hanes yn ddrych o ymnewidiadau diwydiannol Cwm Rhondda. Dywedir y byddai ef yn ymhel â meddygiaeth (awgrymir hynny yn Hen Lyfr H.D.), ac yn sicr bu'n hynafiad i linach hir o feddygon yn y fro. Disgrifir ei unig fab, SAMUEL DAVIES (1734? - 1820) fel ' surgeon ' ar garreg ei fedd; merch i ffermwr oedd ei wraig. Yr oedd eu mab hynaf, HENRY DAVIES, yn feddyg i gylch mawr o wlad; dywedir mai ei frawd-yng-nghyfraith ef oedd 'perchen y rhan fwyaf o'r tir y saif Porth, Rhondda arno heddiw'. Cafodd Henry bedwar o blant, ac yr oedd yr hynaf ohonynt, EVAN DAVIES (1801 - 1850) yn 'gymeriad' nodedig. Efe oedd meddyg y lofa a agorwyd yn Ninas Rhondda gan Walter Coffin; fel Coffin, yr oedd yn Undodwr, ac erys storïau difyr am ei ddadleuon diwinyddol brwd (ond rhadlon) â'r glowyr. Cymerodd y ffugenw 'Ieuan ap Dewi'; sgrifennodd lawer ar ddiwinyddiaeth i Seren Gomer; cyhoeddodd lyfr, Rhifedi ac Undod Duw (Caerdydd, 1846); a dechreuodd (1827) gyhoeddi Y Meddyg Teuluaidd, yn rhannau misol, ond methodd hwnnw. Bu farw 22 Hydref 1850 (Enw F.). Yr oedd ei wraig, CATHERINE NAUNTON, yn ferch i David Naunton (1777 - 1849), gweinidog y Bedyddwyr yn Ystradyfodwg - chwaer iddi hi, Ann, oedd mam D. W. Davies, meddyg yn Llantrisant, a nain NAUNTON WINGFIELD DAVIES (1852 - 1925); gweler Who's Who in Wales, 1921, a'r Western Mail, 14 Chwefror 1925), yntau'n feddyg (F.R.C.S.) ond yn fwy adnabyddus fel dramodydd a hyrwyddwr y ddrama yn Neheudir Cymru - troser y fynegai yn O. Llew. Owain, Hanes y Ddrama yng Nghymru (1948). Cafodd Evan a Catherine Davies dri mab, ac aeth dau o'r rheini yn eu tro'n feddygon; yr oedd yr hynaf, HENRY NAUNTON DAVIES (1827 - 1899) yn wr amlwg ym mywyd cyhoeddus Cwm Rhondda, a chofir ei enw ynglyn â'r ymdrechion i achub bywydau yn nhrychineb mawr glofa'r Tynewydd (Cymer), 1877.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.