Ganwyd 1784, ail fab Walter Coffin, barcer, Penybont-ar-Ogwr. Tra'n chwilio am risgl yng Nghwm Rhondda, daeth i deimlo diddordeb mewn glo; yn 1806 prynodd fferm Dinas Rhondda, ac agor lefel lo arni yn 1807; gwnaeth ffordd dram i'w chysylltu â'r Gyfeillon (gweler Griffiths, Richard), ac felly â'r gamlas yn Nhrefforest. Yn 1810 cymerodd brydles i godi glo ar diroedd eraill cyfagos, a suddodd byllau glo yno yn 1815 a 1832; gweithiai'r haenau 'Rhondda no. 1' a 'Rhondda no. 3.' Er ei fod yn gyfarwyddwr y Taff Vale Railway yn 1836 ni fynnai estyn y ffordd haearn i fyny Cwm Rhondda, am nad oedd ganddo fawr ffydd yn nyfodol y cwm - credai y byddai'r dramffordd a'r gamlas yn ddigon i gludo ei holl gynnyrch.
Bu'n aelod seneddol dros Gaerdydd o 1852 hyd 1857. Yn ôl W. R. Williams, The parliamentary history of the principality of Wales , bu farw 15 Chwefror 1867.
Yr oedd Coffin yn ŵr o opiniynau blaengar mewn diwinyddiaeth. Ei dad oedd unig ymddiriedolwr yr Hen Dŷ Cwrdd ym Mhenybont pan gododd anghydfod yno, yn fuan ar ôl 1806; a llwyddodd Coffin felly i gael galw John James yn fugail ar y gynulleidfa - a droes felly'n Undodaidd. Yn y Dinas hefyd bu ei ddylanwad yn gyfle i Undodiaeth am ysbaid - yr oedd meddyg y gwaith, Evan Davies, yn gefnogwr i'r achos.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.