Ganwyd dydd Mercher y Lludw 1779 yng Nglynderi ar dir Rhydybenne, Llangeler, Sir Gaerfyrddin. Ar restr tanysgrifwyr Telyn Dewi ceir ei enw fel disgybl Davis Castellhywel. Yn 1802 ceisiodd am dderbyniad i Goleg Caerfyrddin, ond fe'i gwrthodwyd (yn ei dyb ef) am ei fod yn Undodwr. Yr un flwyddyn fe'i derbyniwyd i academi Exeter dan Kenrick a Bretland. Ni bu yma ond 18 mis gan feddwl mynd i Goleg York, ond darbwyllodd Charles Lloyd ef i dderbyn galwad oddi wrth eglwysi Undodaidd ifanc Ceredigion. Dechreuodd ar waith ei fywyd yn 1803-4 gan agor ysgol yn Ystrad. Yn Awst 1814 derbyniodd alwad o Gellionnen. Addawodd ofalu amdani a phregethu yno unwaith y mis. Yn gynnar yn 1815 derbyniodd alwad o Benybont-ar-Ogwr a Betws, a bu yma o 26 Mai 1816 hyd 26 Mai 1818 (ac yn achlysurol hyd 22 Tachwedd 1818). Rhoes Benybont i fyny gan wasanaethu Gellionnen yn unig. Yr oedd yn ysgolfeistr llwyddiannus a phregethwr huawdl. Dywedir iddo siomi na chafodd ei apwyntio yn athro yng Ngholeg Caerfyrddin yn 1814 a bod yn ei fryd ef a David Davis (Castellnedd) gychwyn academi yng Nghastellnedd, ond ni ddaeth dim o'r cynllun. Cyfieithodd yn Gymraeg holwyddoreg neu gatecism Dr. Priestley, 1805; a dau draethawd, y cyntaf ar y geiriau Prynedigaeth, Pridwerth, Pwrcas … a'r ail ar y Geiriau a fabwysiadir yn y Testament Newydd agydyntyn dwyn perthynas i Ebyrth, 1807. Yn 1808-11 cyhoeddodd Ymofyniad am Sylfaen yr Athrawiaeth o Haeddiant Crist mewn pedwar rhifyn. Yn 1824 cyhoeddodd ei gyfieithiad, Ymofyniad tawel i'r Athrawiaeth Ysgrythurol am Berson Crist, gan Thomas Belsham. Bu farw 1 Medi 1864 yn 85 mlwydd oed a chladdwyd ef ym mynwent Pantydefaid.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.