Ganwyd yn Sir Gaerfyrddin; y mae traddodiad ei fod yn perthyn i Philippiaid Pictwn; yr oedd ganddo chwaer, Dorothy, a briododd â Timothy Quarrell o Lanfyllin, o deulu pwysig yn hanes Annibyniaeth Maldwyn a Meirion (gweler Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, i, 260, a Jenkins, Hanes Hen Gapel Llanuwchllyn, 70-2); merch iddynt hwy oedd gwraig John Kenrick, Wynne Hall (gweler dan ' Kenrick '), a mam Timothy Kenrick o Exeter. Dywed Thomas Rees i Daniel Phillips fod dan addysg Samuel Jones, Brynllywarch, ond nid yw ei enw yn rhestr Walter Wilson (copi yn N.L.W. Add. MS. 373). Eithr y mae'n sicr iddo fod dan addysg Stephen Hughes. Bu'n cadw ysgol yn Ynys-dderw, Llangyfelach. Yn 1684, aeth i bregethu i Lŷn, gan letya yn y Gwynfryn (Pwllheli), treftad Elin (Glyn), gweddw Henry Maurice; priododd y ddeuddyn, a daeth Phillips felly'n berchen y Gwynfryn. Urddwyd ef 3 Gorffennaf 1688, yn Abertawe, a James Owen yn cymryd rhan - argraffwyd tystysgrif yr urddiad (o un o bapurau Thomas Morgan, Henllan, sydd yn Ll.G.C.) yn Y Cofiadur , 1923, 19-20. Yr oedd yn derbyn £4 y flwyddyn o'r 'Common Fund' fel pregethwr teithiol, 1690-3; o 1711 hyd 1722 câi £6 y flwyddyn 'for Caernarvon' (y sir mae'n debyg) o'r Gronfa Bresbyteraidd, a grantiau hefyd gan y Bwrdd Cynulleidfaol. Edrychir arno fel sylfaenydd eglwys Pwllheli, ac ar un ystyr eglwys Caernarfon hefyd; a chymerth drwydded ar dai ym Môn. Sonia Robert Jones, Rhoslan (Drych yr Amseroedd , 25-6), am ei anawsterau; er mai ' W. Phillips ' yw ei enw ef arno. Bu farw ei wraig, a phriododd yntau drachefn, â rhyw ' Anne ' o ochrau Caerfyrddin - noda Thomas Morgan fod ei gyfaill Milbourne Bloom yn talu rhent iddi. O'r ail briodas, ganed dau fab a phedair merch; bu'r ddau fab yn weinidogion yn Lloegr; priododd y ddwy ferch hynaf â dau o weinidogion Dinbych - yr hynaf ohonynt, gwraig David Williams, oedd mam-yng-nghyfraith Rees Harries, gweinidog Pwllheli 1761-88, a'r ieuengaf o'r ddwy oedd Anne Maurice. Priododd y drydedd ferch, Dorothy, â Richard Thomas, gweinidog Pwllheli 1751-61; a'r bedwaredd oedd gwraig gyntaf Thomas Morgan o Henllan. Bu Daniel Phillips farw yn 1722, ac ailbriododd ei weddw â'i olynydd (1722-48), John Thomas. Fe welir felly i bedwar gweinidog olynol Pwllheli breswylio yn y Gwynfryn - ymestyn eu cyfnod dros 100 mlynedd, a mwy.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.