Ganwyd 31 Awst 1881 yn Lerpwl, yn fab i Robert Jenkins a Margaret (ganwyd Thomas). Symudodd y teulu i Fangor pan benodwyd ei dad yn glerc i William Cadwaladr Davies, cofrestrydd y coleg newydd, ond wedi marwolaeth gynnar ei rieni (ei fam yn 1887 a'i dad yn 1888) magwyd ef gan deulu ei fam yn y Bala a theimlai bob amser ddyled ddofn i'w nain, Margaret, ac i'w gŵr, William Dafis ' y Glo '. Dylanwadodd tref y Bala 'n drwm arno, ei chrefftwyr a'r atgof am drigolion hynod, ei diwylliant Cymreig, cyhyrog, yr hen ysgol ramadeg a'r colegau diwinyddol, a naturiol iddo ymffrostio droeon mai Thomas Charles Edwards a'i bedyddiodd. Gwreiddiwyd ef yn drwyadl gadarn mewn Lladin gan John Cadwalader Evans, prifathro'r ysgol ramadeg, ac yn 1898 enillodd ysgoloriaeth i Aberystwyth, lle y canolbwyntiodd ar Saesneg o dan Charles Harold Herford, a daniodd ddiddordeb parhaol ynddo yn hanes syniadaeth a llenyddiaeth y ddeunawfed ganrif. Graddiodd yn y dosbarth cyntaf yn 1901. Tueddai i fod yn llawdrwm ar Aberystwyth am weddill ei ddyddiau ac ymadawodd yn llawen i Gaergrawnt (lle cafodd sizarship yng Ngholeg y Drindod). Ond oherwydd cyfyngder ariannol nid oedd yn ddedwydd iawn yno ychwaith a Rhydychen a'i denai fwyfwy ym mlynyddoedd ei aeddfedrwydd. Er iddo astudio hanes yn ogystal â Saesneg yng Nghaergrawnt, ar ieitheg y rhoddodd ei fryd ac wedi'r arholiadau anogwyd ef yn gryf i astudio'r pwnc yn yr Almaen. Nid oedd arian ar gael a bu'n rhaid chwilio am swydd. Ar y cychwyn, am fod peth nam ar ei leferydd, petrusodd rhag ei gynnig ei hun fel athro ysgol, ond dyma'r alwedigaeth a ddilynodd yn eithriadol lwyddiannus o 1904 hyd 1930; yn Llandysul (am rai misoedd), yn Aberhonddu o 1904 hyd 1917, ac wedyn yn y City of Cardiff High School for Boys. Ni chollodd ei gariad cynnar tuag at y clasuron a llên Lloegr a Ffrainc, eithr yn Aberhonddu ymroes o ddifrif am rai blynyddoedd i ymchwilio i ddechreuadau ffiwdaliaeth, gan gymryd gradd LL.B. Caergrawnt i ymgynefino â'r Gyfraith Rufeinig, ac er iddo gefnu ar y pwnc hwn fel maes ymchwil yr oedd yr wybodaeth a gasglodd yn gynhysgaeth amhrisiadwy iddo, a hanes bellach a enynnodd ei brif sylw. Yn 1916 cyhoeddwyd ei ysgrif gyntaf yn Y Beirniad ar gyfnod y Tuduriaid yng Nghymru (hon yw'r ysgrif agoriadol yn Yr Apêl at hanes), ac o 1922 ymlaen cyfrannodd yn ddi-fwlch i'r Llenor hyd 1951. Cyfnod arbennig o ffrwythlon ydoedd y blynyddoedd yng Nghaerdydd. Yn 1928 ymddangosodd Hanes Cymru yn y ddeunawfed ganrif (i gyfres y Brifysgol a'r Werin), a enillodd iddo le sicr ymhlith haneswyr Cymru, ac yn 1930 Yr Apêl at hanes, Ffrainc a'i phobl a Gruffydd Jones, Llanddowror. Yn 1930 hefyd y penodwyd ef yn ddarlithydd annibynnol yn adran newydd Hanes Cymru ym Mangor, er na chafodd ei ddyrchafu'n Athro hyd 1945, dair blynedd cyn iddo ymddeol. Ym Mangor braint fawr iddo ydoedd dod i gyfathrach agos â Syr John Edward Lloyd a chafodd fwynhad dihysbydd yng nghwmni'r cymrodyr dethol, disglair a gyfarfu'n rheolaidd i ymgomio'n fywiog ddireidus yn ystafell Syr Ifor Williams.
Penodwyd ef yn 1937 yn olygydd adran hanes a chyfraith Bwletin Bwrdd y Gwybodau Celtaidd, yn 1938 yn olygydd cynorthwyol Y Bywgraffiadur Cymreig ac ar farwolaeth Syr J. E. Lloyd yn 1947 yn gyd-olygydd â Syr William Llewelyn Davies. Cyhoeddwyd y gwaith ar y cychwyn yn Gymraeg yn 1953 a phan ymddangosodd y fersiwn Saesneg yn 1959, gan gynnwys llu o gywiriadau ac ychwanegiadau, ef oedd yr unig olygydd. Eisoes cyflawnodd gymwynas sylweddol ag Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion a noddodd yr anturiaeth, oblegid, gyda Helen Ramage, paratôdd A History of the Honourable Society of Cymmrodorion i ddathlu'r dau canmlwyddiant yn 1951. Bu'n Warden Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru o 1940 hyd 1943 ac yn aelod o gynghorau 'r Llyfrgell a'r Amgueddfa Genedlaethol. Dyfarnwyd iddo radd D.Litt. Prifysgol Cymru yn 1939 a LL.D. honoris causa (Cymru) yn 1956. Yn 1953 anrhydeddwyd ef â Medal Aur Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ac â'r C.B.E. yn 1956.
Gŵr amlochrog ydoedd R.T. Jenkins a'i ddiddordebau'n ymestyn i amryfal gyfeiriadau, gan gynnwys diwinyddiaeth a phensaernïaeth. Yr oedd Ffrainc bob amser yn agos iawn at ei galon ac mor gynnar ag 1922, mewn erthygl yn Y Llenor, cyfeiriodd sylw ei gyd- Gymry at ysgrifenwyr yr adwaith Catholig yn Ffrainc. Tramwyodd dir Ffrainc droeon ac ymserchodd yn ei dyffrynnoedd ffrwythlon a'i threfi bychain castellog, yn enwedig yn yr ardaloedd lle ceid olion amlycaf gwareiddiad Rhufain a'r Oesoedd Canol. Ond prin iawn ydoedd ei ddiddordeb yn Llydaw ac ystyriai syniadau Pan-Geltaidd yn ffug. Erys Ffrainc a'i phobl yn rhagymadrodd tra darllenadwy i'r Cymro Cymraeg a fyn ddeall seiliau gwareiddiad Ffrainc. Yr oedd ganddo gof anghyffredin ('glydiog', meddai ef ei hun) ond nis traflyncwyd gan yr wybodaeth fanwl a oedd ar flaenau ei fysedd. Yn wir, nid oedd yn or-hoff o aparatws ffurfiol dysg, oherwydd anelai yn ei lyfrau at gylch ehangach o ddarllenwyr na mintai o ysgolheigion ac yr oedd yn amharod i fyddaru'r darllenydd cyffredin, deallus â gormod o'r troednodiadau hynny sy'n ganllawiau i ysgolheigion eraill. Ar y cyfan, eithriad yn hyn o beth yw The Moravian brethren in north Wales (1938), ond sydd eto'n llyfr pur ddarllenadwy. Ei brif amcan ydoedd darganfod y dyn unigol yn ei gefndir a chloriannu'r syniadau a'r cymhellion a'i hysgogodd i weithredu fel y gwnaeth mewn hindda ac mewn adfyd. Cywasgai ei sylwadau treiddgar i baragraffau byr lle byddai eraill yn amlhau geiriau am dudalennau lawer. (Ystyrier, er enghraifft, ei ymdriniaeth o geidwadaeth yn Hanes Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg (1933), tt. 29-32, neu o'r gwahaniaeth rhwng yr hen Sentars a'r Methodistiaid yn Yng nghysgod Trefeca (1968), tt. 22 ymlaen.) Fel Syr J. E. Lloyd, a edmygai gymaint, yr oedd ganddo wybodaeth drylwyr o dir a daear Cymru, ac ar droed, mewn bws neu gar cyfaill mesurai fesul pibellaid y teithiau a roes sylfaen mor gadarn i'w astudiaethau hanesyddol. Ac er mai ar gyfer plant yr ysgrifennwyd Y ffordd yng Nghymru (1933) anodd cael gwell rhagymadrodd i hanes Cymru. Llwyddodd i gyflwyno rhin a sawr y canrifoedd, ond ei briod faes oedd y ddeunawfed ganrif, a Methodistiaeth yn arbennig. Yr oedd yn ddigon agos at y rhyferthwy hwnnw i amgyffred y grymusterau tanllyd a ryddhawyd gan un diwygiad ar ôl y llall ac eto'n ddigon diduedd a chadarn ei farn i ymwrthod â'r hen ragfarnau enwadol a wenwynodd hanes crefydd yng Nghymru hyd ei ddyddiau ef. Nid rhyfedd mai'r Methodist hwn a ddewiswyd i ysgrifennu'r llyfr rhagorol, Hanes cynulleidfa hen gapel Llanuwchllyn (1937). Cymharwyd ef â Macaulay, J. R. Green a Maitland, ac er fod llygedyn o wir yn mhob un o'r cymariaethau hyn, ei ddelfryd ei hun oedd G. M. Trevelyan. Eithr yn y bôn yr oedd yn unigryw ac yng Nghymru ni chafwyd ei hafal. Na ddibrisier ychwaith ei waith, ynghyd â William Rees (ei gyn-ddisgybl yn Aberhonddu), yn paratoi The bibliography of the history of Wales (1931), nac ar unrhyw gyfrif ei ymroddiad diarbed i'r Bywgraffiadur. Yn ogystal â'r dyletswyddau golygyddol cyfrannodd oddeutu chwe chant o erthyglau, ac mae'r gyfrol Gymraeg a'r un Saesneg yn llusern i'n traed.
Ymddangosodd nifer o ysgrifau yn Casglu ffyrdd (1956), Ymyl y ddalen (1957), Yng nghysgod Trefeca (1968) a Cyfoedion (1974). Dichon mai'r ysgrif ydoedd y ffurf lenyddol a garai fwyaf, a hwyrach fod ei ddull ymgomiol, y cromfachau a'r italeiddio'n gweddu'n fwy priodol i'r ysgrif nag i ffurfiau llenyddol eraill. Yn ystod Rhyfel Byd II argyhoeddwyd ef mai ei ddyletswydd ydoedd darparu llenyddiaeth ysgafn ar gyfer y cyhoedd yn hytrach nag astudiaethau ysgolheigaidd. Cydweithredodd yn hapus iawn a D. R. Hughes ac eraill i baratoi misolyn, Cofion Cymru, a ddosbarthwyd yn rhad i Gymry Cymraeg a wasanaethai yn y lluoedd arfog ledled y byd er mwyn iddynt gadw cysylltiad â Chymru a'u treftadaeth. Credai iddo gyfrannu i bob cyfrol o'r Cofion, ac ymddangosodd ei straeon byrion o dan yr enw Idris Thomas, yr enw a fabwysiadodd hefyd i guddio'i awduraeth o Ffynhonnau Elim (Llyfrau'r Dryw, 1945), lle mae'r ymddiddan yn nhafodiaith y de. Ei nofel arall ydoedd y campwaith godidog, Orinda (1943), sy'n ail-greu awyrgylch cythryblus y Werinlywodraeth a'r Adferiad a'u heffaith ar gymrawd o Goleg yr Iesu. Ychydig cyn ei farw, ymddangosodd cyfrol o'i atgofion hyd 1930, Edrych yn ôl (1968), ond odid yr hunangofiant difyrraf a luniwyd erioed yn Gymraeg. Fel athro ysgol a darlithydd yr oedd yn ddigyffelyb; ohono ffrydiai dysg yn gymysg a hiwmor' ac enillodd serch ei fyfyrwyr, 'fy nghyfeillion iau'. Ym Mangor y treuliodd y rhan helaethaf o'i fywyd; yno y gorffennodd ei 'berffaith fyfyrdod' ac yno y mae'r atgof amdano bereiddiaf. Bu farw 11 Tachwedd 1969 a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Bangor. Fel canlyniad i apêl genedlaethol, sefydlwyd Darlith goffa R. T. Jenkins yn y coleg yn 1972.
Priododd ddwywaith, yn 1907 â Mary Davies, Aberystwyth (a fu farw yn 1946) ac yn 1947 â Myfanwy Wyn Williams, Aberdâr.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.