Ganwyd 11 Hydref 1887, yn Nhŷ'r Ysgol, Plas Gwyn, ger Pwllheli, Sir Gaernarfon, yn drydydd plentyn a mab ieuangaf William Davies a Jane (ganwyd Evans) ei wraig, y ddau yn enedigol o Lanafan yng Ngheredigion. Buasai'r tad yn giper ar stad Trawscoed cyn symud i gyffelyb swydd ar stad Broom Hall. Pan oedd y mab yn 5 mlwydd oed aeth y tad i wasanaeth Sir Osmond Williams, Castell Deudraeth, ac ymgartrefodd y teulu ym Minffordd, Penrhyndeudraeth. Cafodd Williams ei addysg yn ysgol sir Porthmadog o 1900 i 1903 ac yng nghanolfan disgybl-athrawon Penrhyndeudraeth, tra oedd yn ddisgybl-athro yn ysgol elfennol y Penrhyn, o 1903 i 1906. Aeth wedyn i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a graddio yn B.A. yn 1909 gydag anrhydedd ail ddosbarth mewn Cymraeg. O Hydref 1909 i Chwefror 1910 bu'n athro cynorthwyol yn ysgolion gramadeg y Bermo a Dolgellau cyn cael swydd athro cynorthwyol trwyddedig (cawsai dystysgrif y Bwrdd Addysg yn 1909) yn ysgol y bechgyn ym Maenofferen. Yn 1912 cafodd radd M.A. am draethawd ar ' Phylipiaid Ardudwy: with the poems of Siôn Phylip in the Cardiff Free Library collection ', a symudodd i Gaerdydd i fod yn athro cylchynol Cymraeg mewn ysgolion ac ysgolion nos. Yn 1914-17 yr oedd yn athro cynorthwyol yn ysgol uwchradd Canton, ac o 1914 i 1920 bu'n arholwr cynorthwyol mewn Cymraeg i Fwrdd Canol Cymru. Am ysbaid yn 1916 bu'n ddarlithydd cynorthwyol mewn Celteg yng Ngholeg y Brifysgol yng Nghaerdydd. Yn y cyfnod hwn bu'n cydweithio ag E.T. Griffiths ar lyfrau dysgu Cymraeg: A junior Welsh course for infants and junior classes in elementary schools (1914) a The tutorial Welsh course mewn 2 ran (1914, gydag adargraffiadau tan 1926). Yn 1917 ymunodd â'r Royal Garrison Artillery, a chafodd gomisiwn yn y gwasanaeth addysgol yn nes ymlaen.
Ym mis Medi 1919 penodwyd ef yn llyfrgellydd cynorthwyol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac yno y bu hyd derfyn ei oes. Yn 1930, etholwyd ef yn brif lyfrgellydd ar ymddeoliad Syr John Ballinger. Ymroes i gasglu a diogelu llawysgrifau a chofysgrifau a oedd ar wasgar yng Nghymru, a thu allan iddi, ac yn y cyfnod hwnnw o ddirwasgiad economaidd, a thrwy gydol Rhyfel Byd II, a oedd mewn perygl mawr rhwng chwalu ystadau, cau tai pendefigion, a'u meddiannu gan awdurdodau milwrol, a dinistr o'r awyr. Cadwodd y Llyfrgell mewn cyswllt agos â sefydliadau a chyrff gyda chyffelyb amcanion drwy ei aelodaeth o'r Historical MSS Commission, Society of Antiquaries, pwyllgor gwaith y Council for the Preservation of Business Archives a'r British Records Association yr oedd ef, fel cynrychiolydd diddordebau Cymru, yn un o'i is-lywyddion. Fel prif weinyddwr Ll.G.C. yr oedd yn gyfrifol am drefnu benthyg llyfrau i ddosbarthiadau oedolion drwy Gymru gyfan, am weithredu Cynllun Taleithiol Llyfrgelloedd Cymru a Mynwy mewn un sir ar ddeg, ac am ddewis, sicrhau a dosbarthu llyfrau i sanatoria Cymru. Yn ystod Rhyfel Byd II sefydlodd bwyllgor i gyflenwi llyfrau i fechgyn a merched yn y lluoedd. Rhoes loches yn y Llyfrgell i drysorau llyfrgelloedd ac amgueddfeydd o ardaloedd agored i ymosodiadau o'r awyr. Cymerodd fantais ar bob cyfle drwy ddarlithiau, sgyrsiau radio, a chyhoeddiadau i ddwyn y Llyfrgell yn nes at bobl Cymru. Yn 1937 cyhoeddodd The National Library of Wales: a survey of its history, its contents, and its activities, a dwy flynedd wedyn sefydlodd Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a pharhau i'w olygu am 14 blynedd. Bu'n olygydd mygedol y Jnl. of the Welsh Bibliographical Soc., 1932-49, Cardiganshire Antiquarian Society Transactions (a alwyd Ceredigion yn 1950), hyd 1951, a Cylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Meirionnydd, 1949-51. Yr oedd yn gyd-olygydd y Bywgraffiadur Cymreig, 1953. Cyhoeddodd lawer o erthyglau llyfryddol a hanesyddol i gyfnodolion, ac yr oedd yn aelod o lawer o gyrff academaidd a diwylliannol. Urddwyd ef yn farchog yn 1944, a rhoes Prifysgol Cymru radd LL.D. er anrhydedd iddo yn 1951. Yn 1952 ef oedd uchel siryf Meirionnydd.
Priododd yn 1914 â Gwen, merch Dewi Llewelyn, groser a phobydd ym Mhontypridd, ac ychwanegodd Llewelyn at ei enw. Bu iddynt un ferch. Bu farw yn ei gartref, Sherborne House, Aberystwyth, 11 Tachwedd 1952, a gwasgarwyd ei lwch ar erddi'r Llyfrgell Genedlaethol.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.