GRIFFITHS, EVAN THOMAS (1886 - 1967), athro, ysgolhaig a llenor

Enw: Evan Thomas Griffiths
Dyddiad geni: 1886
Dyddiad marw: 1967
Rhiant: Anne Griffiths
Rhiant: David Griffiths
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athro, ysgolhaig a llenor
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Ganwyd 20 Chwefror 1886, yn Llanafan, Ceredigion, yn fab i David ac Anne Griffiths a bedyddiwyd ef yn eglwys plwyf Llanafan, 11 Mawrth. Cafodd ei addysg gynnar yn ysgol elfennol Llanafan a cheir ei enw ar lyfrau'r ysgol fel athro-ddisgybl, 1902-04, ac fel cyn-athro-ddisgybl yn 1905. Ym mis Mehefin 1904 eisteddodd arholiad 'matriculation' Prifysgol Llundain a llwyddo. Ym mis Medi 1905 aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Nodir iddo gael anrheg o lyfrau gan athrawon a disgyblion ysgol Llanafan ar ei ymadawiad. Graddiodd gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn Ffrangeg yn 1909 ac yn 1914 dyfarnwyd iddo radd M.A. Prifysgol Cymru am draethawd yn ymdrin â thestunau'n perthyn i'r ' Map-cycle in Italy and especially of the Chantari di Lancilotto, with a short introduction on the history of the Arthurian tradition in Italy '. Bu'n astudio hefyd mewn gwahanol sefydliadau ar y cyfandir. Yn ystod ei yrfa broffesiynol bu yn olynol yn athro ysgol yn Llundain, yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Manceinion, yn athro ysgol yng Nghasnewydd-ar-Wysg, yn brifathro ysgol sir Llanfyllin, yn brifathro ysgol y Barri. Ymddeolodd yn 1948. Yn ystod ei ymddeoliad aeth allan am gyfnod i Awstralia ac enillodd radd D.Litt. Prifysgol Melbourne. Dychwelodd i Gymru a chartrefu yn gyntaf yn Aberaeron ac yna yn Llandre ger Aberystwyth. Bu farw yn ysbyty Bronglais, Aberystwyth, 6 Tachwedd 1967.

Cyhoeddodd ddau waith ysgolheigaidd a oedd yn adlewyrchu ei ddiddordeb mewn Ffrangeg ac Eidaleg, sef, Oeuvres Poétiques de Jean de Lingendes (Paris, 1916), a Li Chantari di Lancilotto (Rhydychen, 1924). Cyhoeddodd hefyd rai cyfrolau yn cynnwys ymarferiadau mewn Ffrangeg ar gyfer myfyrwyr. Ar y cyd gyda William Ll. Davies cyhoeddodd The Tutorial Welsh Course, Parts I and II (nifer o argraffiadau o 1914 ymlaen). Ond hwyrach mai am ei drosiadau a'i gyfieithiadau o'r ieithoedd Romawns i'r Gymraeg y cofir ef yn bennaf. Ymhlith y rhain ceir Yr Hogyn pren neu helyntion Pinocio (o'r Eidaleg, 1938), Cerddi'r Trwbadŵr (1954), Calon (o'r Eidaleg, 1959), Platero a minnau (o'r Sbaeneg gyda T. Ifor Rees, 1961), Atgofion dyddiau ysgol (o'r Eidaleg, 1965), Cerddi estron (o amryfal ieithoedd, 1966), Y Sgarff felen a storïau eraill (o'r Eidaleg, 1966), a Y Diriogaeth goll (o'r Ffrangeg, 1969). Cyhoeddodd hefyd gyfrol o Storïau glannau Ystwyth (1957). Ceir ychydig o'i waith mewn teipysgrif a llawysgrif yn Ll.G.C.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.