Y mae Kenriciaid dwyrain sir Ddinbych a'r goror yn olrhain eu tras i Cynwrig ap Rhiwallon (bu farw 1074) a hawliodd arglwyddiaeth Maelor Gymraeg wedi ei hadennill gan y Cymry yn yr 11eg ganrif; credir mai ar ôl ei enw ef y cafodd trefgordd Cristionydd Kenrick (gerllaw Rhiwabon) ei henw. Bu i'r gangen a ymsefydlodd yng nghymdogaeth Wrecsam gyswllt agos â thwf Anghydffurfiaeth yno ac yn Sir Feirionnydd yn yr 17eg ganrif a'r 18fed ganrif.
Mab hynaf Samuel Kenrick (bu farw 1716), Fawnog, Bersham, ac ŵyr Edward Kenrick (bu farw 1693), Gwersyllt. Buasai'r tad a'r taid yn perthyn i'r 'Old Meeting' - y gynulleidfa a sefydlwyd yn y lle cyntaf gan Morgan Llwyd yn Wrecsam - a hwy a ddarparasai'r adeilad yr addolai'r gynulleidfa ynddo fel rheol o adeg 'Declaration of Indulgence' 1672 (ac, efallai, cyn hynny) hyd yr adeiladwyd capel parhaol yn 1762; eithr ymunodd Edward Kenrick â'r 'New Meeting' (Presbyteraidd) pan ymrannodd o'r 'Old' yn 1691, a rhoes gartref iddo dros dymor hyd nes y cwplawyd y capel parhaol c. 1700. Priododd Susannah, merch ac aeres Hugh Owen, Bron Clydwr, ac etifeddodd y stad honno yn 1700 a chyda'r etifeddiaeth ofalaeth fugeiliol gyffredinol ei dad-yng-nghyfraith dros Anghydffurfwyr sir Ferionnydd - Independiaid gan mwyaf. Ordeiniwyd ef yn Wrecsam yn 1702, yr un pryd â John Evans (c. 1680 - 1730), gan Matthew Henry, James Owen, â gweinidogion Presbyteraidd eraill. Tua 1715 ymsefydlodd yn weinidog yn y Bala, wedi hynny yn Llanuwchllyn (1739), lle y daeth ei fab JOHN KENRICK, Bron Clydwr, yn ymddiriedolwr y capel yr oeddid newydd ei adeiladu (1745) a'r 'New Meeting' yn Wrecsam (1748); dywedir, fodd bynnag, iddo gydymffurfio yn y diwedd. Daeth llinach Kenriciaid Bron Clydwr i'w therfyn gyda HUGH OWEN KENRICK (1785 - 1821).
Mab iau Samuel Kenrick (bu farw 1716). Ordeiniwyd ef yn Nantwich gan Matthew Henry, ac eraill, 21 Hydref 1707, a bu'n fugail y 'New Meeting' yn Wrecsam o'r adeg honno hyd ei farw. Yn ystod ei ofalaeth ef y llosgwyd y capel, 15-30 Gorffennaf 1715, gan haid o bleidwyr James Stuart ('Jacobites') yn Wrecsam; rhoes Kenrick fenthyg arian tuag at yr atgyweirio, a thalwyd yr arian yn ôl iddo gan y Llywodraeth (1717). Yn 1723 priododd Sarah, gweddw John Taylor, Esclusham, ac ŵyres Capten William Wynn (bu farw 1692), Wynn Hall, a etifeddodd ef trwyddi hi. Buasai ei thaid hi, ac, y mae'n debyg, taid ei gŵr cyntaf, yn swyddogion ym myddin y Pengryniaid, yn aelodau o gynulleidfa Morgan Llwyd, ac yn gomisiynwyr o dan Ddeddf Taenu 1649. Yr oedd John Kenrick yn ymddiriedolwr hefyd o dan ewyllys Dr. Daniel Williams (1643? - 1716), eithr yn wahanol i Williams datblygodd gred mewn Ariaeth yn ddiweddarach yn ei oes. Parhaodd ei frawd, DANIEL KENRICK, gŵr yr oedd ganddo fusnes siandler yn Wrecsam, yn yr 'Old Meeting,' a daeth yn ymddiriedolwr gwaddoliadau'r eglwys hònno yn 1747.
Am chwe mab JOHN KENRICK I - yr oedd JOHN KENRICK II (aer Wynn Hall; bu farw 1803) a WILLIAM KENRICK (gof pres yn Wrecsam; bu farw 1793) ill dau yn ymddiriedolwyr y 'New Meeting' (1783); yr oedd John (a briododd aelod o hen deulu Anghydffurfwyr yn Sir Drefaldwyn, sef Quarrell, Llanfyllin) yn ymddiriedolwr yr Hen Gapel yn Llanuwchllyn hefyd. Bu William yn gyd-ddiffynnydd yn y cyngaws yn y sesiwn fawr yn Wrecsam (18 Mawrth 1788) pan oedd y 'New Meeting' yn dadlau ei hawl (yn erbyn yr 'Old Meeting') i ddefnyddio'r gladdfa a adawyd yn ei ewyllys gan Daniel Lloyd (bu farw 1655) i gynulleidfa Morgan Llwyd. Brawd arall oedd SAMUEL KENRICK, Undodwr, ieithydd da, gŵr a drafaeliodd lawer fel athro mewn teulu ac a gyfarfu â Rousseau a Voltaire yn Ffrainc; ymunodd ef gyda'i frawd Edward i sefydlu'r 'Old Bank' yn Bewdley (1776).
Aer nesaf Wynn Hall oedd JOHN KENRICK III (1753 - 1823), a fuasai cyn hynny yn farsiandwr caws yn Whitchurch; priododd ef or-or-wyres Matthew Henry, ac er mai Undodwr ydoedd daeth yn ymddiriedolwr y 'New Meeting,' Wrecsam (1797 a 1799), a'r Hen Gapel, Llanuwchllyn (1823); yn 1797 daeth yn ymddiriedolwr y gronfa a gymynroddwyd yn 1728 gan chwaer Daniel Williams er cymorth gweinidogion Presbyteraidd. Ynglŷn â'r 'New Meeting' fe'i dilynwyd fel ymddiriedolwr (1834 a 1843) gan ei aer WILLIAM KENRICK (1794 - 1865), gŵr y mae llinell Wynn Hall yn parhau drwyddo. Etifeddwyd busnes siandler Daniel Kenrick yn Wrecsam gan ei or-nai JAMES KENRICK (1757 - 1824), brawd John Kenrick III; o dano ef daeth y busnes yn ariandy (c. 1800-48), ei bartner yn ŵr o Manchester yn 1824; trosglwyddodd ei ran ef yn y busnes i'w nith SARAH KENRICK. Yr oedd yntau hefyd yn ymddiriedolwr y 'New Meeting' ac yn ddiffynnydd yn achos y gladdfa yn 1788. Bu brawd arall, TIMOTHY KENRICK (1759 - 1804), yn athro yn academi Anghydffurfiol Daventry (1779-84) gan ddyfod yn fugail eglwys Bresbyteraidd yn Exeter (1784-1804) er ei fod yn Undodwr yn ei olygiadau personol ac yn dad i ddau fab a aeth i weinidogaeth yr Undodwyr yn Lloegr.
Mab William Kenrick (1798 - 1865) ac ŵyr y trydydd John Kenrick, Wynn Hall.
Addysgwyd Llewelyn Kenrick (anaml y defnyddiai ei enw cyntaf) yn ysgol ramadeg Rhiwabon. Daeth yn gyfreithiwr yn Rhiwabon, yn glerc i ustusiaid heddwch mainc Rhiwabon, 1896-1933, a bu'n grwner adran ddwyreiniol sir Ddinbych o 1906 hyd ei farwolaeth. Pan oedd yn ddyn ieuanc yr oedd yn flaenllaw ymysg y rhai a chwaraeai bêl droed. Efe a ffurfiodd y 'Football Association of Wales' yn nhymor 1875-6; cyfeiriodd Syr Evan Morris at hyn pan roddwyd y cwpan Cymreig cyntaf ('the first Welsh cup') i'r enillwyr yn 1879. Enillasid y cwpan ddwy flynedd yn gynt, ond y pryd hwnnw nid oedd cwpan i'w gael gan y 'Football Association of Wales' ieuanc. Kenrick a drefnodd yr ornest ryng-genedlaethol gyntaf rhwng Cymru a'r Alban. Yn Glasgow, ar 25 Mawrth 1876, y bu'r chwarae, ac yr oedd Kenrick yn chwarae 'fullback' dros Gymru yn yr ornest honno; bu'n chwarae dros Gymru bedair gwaith wedi hynny. Yr oedd yn aelod o'r tîm cyntaf a orfu ar Loegr yn Blackburn, 1881. Bu'n chwarae dros y Shropshire Wanderers ac yn gapten tîm enwog y Druids. Efe oedd llywydd cyntaf, ac ysgrifennydd mygedol, y 'Football Association of Wales,' a bu'n aelod o gyngor yr Association am gyfnod hir. Priododd ferch y Parch. A. L. Taylor, prifathro ysgol ramadeg Rhiwabon; ni bu plant o'r briodas. Bu farw 29 Mai 1933 a chladdwyd ef yn Rhiwabon.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.