Tybir ei fod ef o'r un teulu â gŵr cyntaf gwraig gyntaf Vavasor Powell (Paul Quarrell oedd ei enw), James Quarrell o Amwythig, a'r ddau Quarrell a ymddengys yng nghofnodion eglwys Llanfyllin. Is-athro (' usher ') yn ysgol Biwritanaidd Trefaldwyn ydoedd i ddechrau, a daliodd yno hyd yr Adferiad. Yn 1669 yr oedd yn byw yn yr Eglwys Newydd ger Caerdydd, ac yn prysur dorri'r gyfraith drwy bregethu mewn cyfarfodydd dirgel yn Eglwysilan, Llanedern, Meirin, a Bedwas. Yn 1670 cafodd ef (a dau arall) lythyr oddi wrth Vavasor Powell ychydig cyn ei farw yn amgau rhodd fechan o arian. Yn 1672, ar 25 Gorffennaf, cafodd drwydded i bregethu yn nhŷ John Maurice yn Shirenewton; yn 1675 rhydd Henry Maurice yn ei adroddiad le pur amlwg i Quarrell ymhlith Ymneilltuwyr Mynwy. Y mae'n eglur oddi wrth eiriau Maurice mai Bedyddiwr ydoedd, rhydd-gymunwr, bugail preiddiau y William Thomas a fu farw yn 1671, gyda'i fan canolog yn Llantrisant. Cynrychiolid ef a'i eglwys eang yng nghymanfa fawr Llundain yn 1689, cymanfa yn agored i Fedyddwyr rhydd a chaeth. Bu farw yn 1709.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/