QUARRELL, JAMES (fl. 1650-72), pregethwr Piwritanaidd, Annibynnwr
Enw: James Quarrell
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr Piwritanaidd, Annibynnwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Richards
Daw i'r golwg gyntaf fel un o ddisgyblion teithiol Vavasor Powell o dan Ddeddf y Taeniad (1650-3), un o brif amddiffynwyr y gŵr hwnnw yn yr Examen et Purgamen Vavasoris, a dal tarian Powell yn erbyn diffynwriaeth Cromwell drwy arwyddo'r Word for God. Sefydlwyd ef yn Ffordun gan y ' Triers.' Gyda'r Adferiad yn 1660 wele ef yng ngharchar Trallwng; o dan Ddeddf y Pum Milltir gorfu arno symud o Ffordun i gartref newydd, a dewisodd Amwythig; yno yn 1671 y rhoddodd gyngor petrus ddigon i Henry Maurice yng nghanol ei bryderon, ac yno, ar 22 Mai 1672, y cafodd drwydded i bregethu yn un o ystafelloedd y King's Head.
Awdur
- Thomas Richards, (1878 - 1962)
Ffynonellau
-
Vavasoris Examen et Purgamen or Mr V. Powell's impartiall triall who being apprehended upon the late hue and cry raised after him, hath appealed to God and his country, and is found not guilty (Llundain 1654), 14
-
Lambeth MS 989, 58
-
Calendar of State Papers, Domestic Series, Chas. II, E.B. 38A, 134
-
Hanes y Bedyddwyr yn Nghymru, ii, 395-6
-
The Nonconformist Memorial; being an Account of the Lives … and Printed Books of the two thousand Ministers ejected … (1802–3), iii, 150
Dolenni Ychwanegol
- Wikidata: Q20733333
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/