JONES, THOMAS (1742 - 1803), peintiwr golygfeydd

Enw: Thomas Jones
Dyddiad geni: 1742
Dyddiad marw: 1803
Priod: Maria Jones (née Turnstaat)
Rhiant: Hannah Jones
Rhiant: Thomas Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: peintiwr golygfeydd
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Natur ac Amaethyddiaeth
Awduron: Megan Ellis, Llewelyn Gwyn Chambers

Ganwyd 26 Medi 1742 yn ail fab Thomas a Hannah Jones, Trefonen, ym mhlwyf Cefnllys yn sir Faesyfed. Symudodd ei rieni i fyw i Bencernig ym mhlwyf Llanelwedd yn yr un sir, plasty sydd yn dal hyd heddiw'n eiddo i'r teulu. Aeth yn ddisgybl i'r ysgol golegol yn Aberhonddu yn 1753 ac yno dechreuodd ddangos diddordeb mewn darluniau. Aeth i ysgol Jenkin Jenkins yn Llanfyllin yn 1758, ac oddi yno i Goleg Iesu, Rhydychen, lle'r ymaelododd 11 Gorffennaf 1759. Bwriadwyd iddo fod yn glerigwr ond ar ôl marwolaeth John Hope, ewythr ei fam, yn 1761, gadawodd Rydychen, a threuliodd ei holl amser yn gweithio fel arlunydd.

Ym mis Tachwedd 1761 aeth i ysgol arlunio William Shipley yn Llundain, ac astudiodd yno o dan gyfarwyddyd Henry Pars hyd 1763, pryd yr ymrwymodd ei hun yn ddisgybl i'r arlunydd enwog Richard Wilson. Bu yno am ddwy flynedd gan dalu hanner can gini i Wilson am ei addysg. Derbyniodd wobrau gan Gymdeithas y Celfyddydau yn 1764, 1767, a 1768, ac etholwyd ef yn aelod o Gymdeithas Unedig yr Artistiaid yn 1766.

Treuliodd Thomas Jones ddeng mlynedd yn Llundain a gwahanol rannau o dde Lloegr, gydag ambell ysbaid yn ei gartref yng Nghymru, yn peintio golygfeydd, a rhifai ymysg ei gyfeillion y fath enwogion â Garrick, Evan Lloyd, Farington, a Francis Wheatley. Aeth i'r Eidal yn 1766 ac ymgartrefodd yn Rhufain am rai blynyddoedd ac yna symud i Naples yn 1780. Peintiodd lawer o olygfeydd yno a gwerthodd amryw ohonynt i uchelwyr o Loegr. Bu'n gyfeillgar yno ag Edward Pars, John Smith, Towne, Day, ac arlunwyr eraill.

Dychwelodd i Lundain yn 1783 a'i wraig, Maria, a'i ddwy ferch gydag ef. Treuliodd ei amser drachefn yn peintio golygfeydd ac addefai ei fod, ambell dro, yn dynwared o fwriad waith Wilson a Zuccarelli. Ar farwolaeth ei frawd hynaf yn 1787 etifeddodd stad Pencerrig a symudodd yno i fyw yn 1769. Dewiswyd ef yn uchel siryf sir Faesyfed yn 1791 ac yn aelod o'r fainc ynadol dros yr un sir yn 1792. Bu farw ym Mhencerrig ym mis Mai 1803.

Dangoswyd 10 o'i ddarluniau yn arddangosfeydd yr Academi Frenhinol rhwng 1784 a 1798, a nifer lluosog yn arddangosfeydd Cymdeithas yr Artistiaid, ac ysgythrwyd amryw o'i ddarluniau. Y mae enghreifftiau o'i waith i'w gweled mewn amryw o gasgliadau cyhoeddus a phreifat, ac erys llawer ohonynt ym meddiant y teulu.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/