BOLD, HUGH (1731 - 1809), cyfreithiwr yn Aberhonddu

Enw: Hugh Bold
Dyddiad geni: 1731
Dyddiad marw: 1809
Priod: Dorothy Bold (née Philipps)
Priod: Elizabeth Bold
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfreithiwr
Maes gweithgaredd: Cyfraith
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Yn ôl Miss G. E. F. Morgan yn Old Wales (gol. W. R. Williams), cyf. III, tt.55-56, gofaint yng nghyffiniau Llanfrynach oedd Boldiaid Brycheiniog; ac yr oedd tad Hugh Bold, meddai recordiau corfforaeth Aberhonddu, yn 'Trumpeter to the Corporation of Brecon'. Aeth y mab yn glerc i'r cyfreithiwr John Philipps (o Dre-gaer ger Llanfrynach - arno gweler Theophilus Jones, IV, 37) yn ei swyddfa yn Aberhonddu. Yno priododd ferch ei gyflogwr a dringodd yn gyflym, a daeth busnes Philipps i'w ddwylo yn nes ymlaen. Daeth yn ŵr blaenllaw ym mywyd y dre (bu'n feili, h.y. yn faer, bedair gwaith), a chyfreithiwr gwaith haearn Cyfarthfa ac eraill o weithfeydd cynnar y chwyldro diwydiannol.

Yr oedd hefyd yn golofn Methodistiaeth Wesleaidd (Saesneg) Aberhonddu; efo, yn stiward y seiat Wesleaidd, a rwystrodd i'r Arglwyddes Huntingdon gymryd meddiant o'r capel Methodistaidd cyntaf yn y dre, tua 1771. Dywedodd John Wesley mewn llythyr na wyddai am unrhyw gyfreithiwr y gellid dibynnu cymaint arno ag ar Bold; a sieryd y Morafiad Benjamin La Trobe yn uchel iawn amdano.

Bu'n briod ddwywaith. Enw ei wraig gyntaf oedd Elizabeth, ond ni lwyddwyd i gael hyd i'w chyfenw; bu hi farw 31 Hydref 1781; ac o'r briodas hon y disgyn Boldiaid diweddarach y sir - gweler hanes y teulu gan Mr. David Verey, yn Brycheiniog, 1960. Tua 1782, ymbriododd Bold â Dorothy, merch ei hen feistr John Philipps (ymhell ar ôl marw ei thad, 1763); bu Dorothy farw yn 1806 (Theophilus Jones, II, 95).

Bu ef farw 10 Chwefror 1809; ceir disgynyddion mewn safleoedd uchel yn y dre a'r sir ymhellach ymlaen.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.