MORGAN, GWENLLIAN ELIZABETH FANNY (1852 - 1939), hynafiaethydd

Enw: Gwenllian Elizabeth Fanny Morgan
Dyddiad geni: 1852
Dyddiad marw: 1939
Rhiant: Philip Morgan
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Nefynnog, 9 Ebrill 1852, yn ferch i Philip Morgan (gweler ach y teulu yn Theophilus Jones, History of the County of Brecknock, 3ydd arg., iv, 134-8, a chymharer yr ysgrif ar ' Morgan, Thomas, 1769 - 1851 '), a fu'n gurad parhaol Penpont (1841-64) a Battle gerllaw Aberhonddu (1859-64, ac yn rheithor Llanhamlach o 1864 hyd ei farw yn 1868, pan symudodd hithau i Aberhonddu. Yr oedd ' Miss Philip Morgan,' fel y gelwid hi fynychaf, yn flaenllaw ym mywyd cyhoeddus ei thref a'i hardal, yn enwedig gydag addysg; ac y mae'n werth nodi mai hi oedd y ferch gyntaf oll yng Nghymru i fod yn aelod o gyngor trefol - a'r ferch gyntaf oll yng Nghymru i fod yn faer; bu'n faer Aberhonddu yn 1910-1. Ond gyda hynny, yr oedd ganddi ddiddordeb mawr yn hanes ei bro. Cyfrannai i'r cylchgronau hynafiaethol a olygid gan W. R. Williams o Dalybont-ar-Wysg; a sgrifennodd y bywgraffiad sydd yn Theophilus Jones, Historian (gweler o dan yr enw). Eithr yn y bardd Henry Vaughan yr oedd ei diddordeb pennaf. Darganfu liaws o ffeithiau ynghylch ei yrfa ef, a phan ddaeth i gyffyrddiad (1895) â'r Americanes Louise Imogen Guiney (1861 - 1920), a oedd hithau â diddordeb arbennig yn Vaughan cytunodd y ddwy i gydweithio ar argraffiad o weithiau'r bardd, gyda nodiadau bywgraffyddol a hanesyddol. Hysbysebwyd y bwriad hwn mor gynnar â 1896, ond bu farw'r ddwy gyfaill heb ei sylweddoli. Eithr trosglwyddwyd y casgliad mawr o ddefnyddiau a heliwyd ynghyd ganddynt, i'r diweddar Ddr. F. E. Hutchinson, a seiliodd yntau arnynt ei lyfr safonol Henry Vaughan, 1947. Rhoes Prifysgol Cymru radd M.A., er anrhydedd, i Miss Morgan yn 1925. Bu farw yn Aberhonddu, 7 Tachwedd 1939.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.