Ganwyd 6 Rhagfyr 1769, yn fab i Philip Morgan o Ddefynnog - gweler ach y teulu yn Theophilus Jones, History of the County of Brecknock (3ydd arg.), iv, 134-8, a chymharer yr ysgrif 'Morgan, G. E. F.', uchod. Addysgwyd ef yn ysgol Coleg Crist, Aberhonddu, dan David Griffith, ac yng Ngholegau Wadham a Iesu yn Rhydychen; graddiodd yn 1790 (D.D. 1824), ac urddwyd ef; ond torrodd ei iechyd i lawr, ac yn 1793 cymerth gaplaniaeth yn y llynges. Yr oedd ym mrwydr enwog ' y cyntaf o Fehefin,' 1794 (clwyfwyd ef ynddi); yn Spithead ddechrau 1798 pan dorrodd gwrthryfel ymhlith y llongwyr (gyda'r dynion yr oedd cydymdeimlad Morgan, a bu ei ddylanwad arnynt yn help i dawelu'r anghydfod); ac ym mrwydr Ushant, 21 Ebrill o'r un flwyddyn. Bu'n gaplan-ysgrifennydd i'r llyngesydd Cotton o 1799 hyd 1807; wedyn yn gaplan i amryw o ysbytai'r llynges; ac o 1817 ymlaen yn gaplan y dockyard yn Portsmouth, lle y bu farw, 22 Tachwedd 1851.
Daliodd amryw fywiolaethau hefyd; curadiaeth barhaol Talyllychau a Llansadwrn, rheithoraeth Llanfaches (rhoes lestri cymun i'r eglwys yno), a ficeriaeth King's Langley, Swydd Hertford. Ar farw ei unig fab (1844) gwerthodd ei stad ym Mrycheiniog.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.