Ganwyd 1760 yn Nhai'n-y-nant, Rhiwabon, sir Ddinbych. Enillodd ei dad, JOHN ROBERTS, mab i rydd-ddeiliad yn Rhiwabon, enwogrwydd fel gwneuthurwr clociau. Ymddengys ei enw ar restr y tanysgrifwyr i Dewisol Ganiadau, a gyhoeddwyd yn 1759 gan Huw Jones o Langwm. Bu John Roberts yn byw yn Wrecsam o 1764 hyd ar ôl 1771, a gwnaeth gloc i Izaak Walton (Peate , Clock and Watch Makers of Wales, 60-1). Addysgwyd Peter Roberts yn gyntaf yn ysgol ramadeg Wrecsam, ac yna (o tua 1775) yn ysgol ramadeg Llanelwy. Wedi hyn bu'n athro preifat ar y disgyblion Gwyddelig yn yr ysgol honno, ac arweiniodd hynny i'w gofrestri (fel sisar) yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, lle y graddiodd yn M.A. Parhaodd i astudio Hebraeg a seryddiaeth, ac yr oedd ganddo beth achos i obeithio mai ef a gai ddilyn Henry Ussher fel athro seryddiaeth yng Ngholeg y Drindod, Dulyn. (Ni chafodd y swydd honno, fodd bynnag). Er mwyn ceisio gwellhad o afiechyd bu raid iddo symud i fyw yn nyffryn Barèges yn Ne Ffrainc yn 1789. Dychwelodd i Iwerddon a bu'n athro teuluol. Yn ddiweddarach aeth i Eton gyda dau o'i ddisgyblion. Ar ddiwedd arhosiad y bechgyn yn yr ysgol honno, rhoddwyd iddo bensiwn gan ddau o'i ddisgyblion. Tra'r oedd yn Eton gorffennodd Roberts ei Harmony of the Epistles, a gyhoeddwyd ar draul Prifysgol Caergrawnt yn 1800. Dychwelodd i Gymru ac astudio hynafiaethau Cymreig. Yn 1810 penodwyd ef yn ficer Llanarmon yn Nyffryn Ceiriog. Yng Nghroesoswallt, fodd bynnag, yr oedd yn byw, ac ysgrifennodd hanes y dref honno. Cyhoeddwyd y gwaith yn ddienw yn 1815. Tua 1814 gwnaed ef yn ficer Madeley yn swydd Amwythig, ac yn 1818 rhoddwyd iddo reithoriaeth Helygain (Halkyn), Sir y Fflint. Tra'n gwasanaethu yno trechwyd ei hynawsedd a'i radlonedd gan waeledd a phregethu go gyffredin. Bu farw ar ddydd Sul, 30 Mai 1819 (21 Mai yn ôl D.N.B. a Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru. Y mae'r ' 1839 ' a awgrymir yn Archæologia Cambrensis, 1863, yn amlwg yn wall argraffu). Yn ychwanegol at y cyfrolau a nodwyd uchod, ac at weithiau eraill ar ddiwinyddiaeth a seryddiaeth, cyhoeddodd A Sketch of the Early History of the Cymry (700 B.C.-A.D. 500), 1803; The Chronicles of the Kings of Britain, 1811; a'i waith adnabyddus Cambrian Popular Antiquities, 1815 (gyda lluniau lliw). Cyhoeddwyd argraffiad Cymraeg o'r olaf yng Nghaerfyrddin yn 1823, gyda lluniau gan Hugh Hughes (1790 - 1863).
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.