Gweithiodd drwy ei oes fel gwas ar amryw ffermydd. Cyfansoddodd dros 100 o gerddi. Cyhoeddwyd hwy ynghyd â cherdd neu ddwy o waith beirdd eraill ei gyfnod mewn 79 o bamffledi, y rhan fwyaf ohonynt yn 8 tudalen, ac fel rheol yn dwyn y teitl ' Dwy o Gerddi Newyddion ' neu ' Tair o Gerddi Newyddion.' Nid oes dyddiad i 19 ohonynt. Am y lleill, perthyn y cynharaf ohonynt i'r flwyddyn 1727 a'r ddiweddaraf i'r flwyddyn 1813. Argraffwyd hwy yng ngwasgau Cymreig Amwythig, Bala, Bodedern, Caer, Caerfyrddin, Trefriw, Wrecsam, a chan wasgau anadnabyddus. Cyhoeddwyd o leiaf bedwar o'r pamffledi hyn wedi ei farw; [ni wyddys ddydd ei farw, ond y mae tystiolaeth mai 1782 oedd y flwyddyn].
Ymdrin llawer o'r cerddi â thestunau crefyddol megis edifeirwch, angau, a thragwyddoldeb. Canodd gerddi beiblaidd ar ' Anedigaeth Crist a'i Wrthiau,' ' Cofia gadw yn sanctaidd y Dydd Sabbath,' ' Ymddiddan rhwng Abab a Jezebel,' a ' Dameg y gwr a syrthiodd ymysg lladron.' Yn ei gerddi moesol goganai yn erbyn cybydd-dod, meddwdod, ariangarwch, cenfigen, a thorri'r Saboth. Brithir ei weithiau â cherddi serch, cerddi yn ymdrin â helyntion ei oes megis ' Cwynfan Teyrnas Loegr ar Drigolion America,' marwnadau, a cherddi yn erbyn tlodi a gorthrwm. Cyfansoddodd hefyd nifer o anterliwtiau megis ' Histori'r Geiniogwerth Synnwyr,' ' Capten Factor,' ac ' Ymddiddan rhwng Protestant a Neillduwr.'
Yn 1759 golygodd Dewisol Ganiadau yr oes hon, yn cynnwys gwaith William Wynn (Llangynhafal), Goronwy Owen, 'Ieuan Brydydd Hir,' ac eraill, a gwaith amryw o feirdd nas cyhoeddwyd o'r blaen, eiddo Huw Jones yn eu plith; cafwyd pum argraffiad rhwng 1759 a 1827. Yn 1763 ymddangosodd gwaith arall dan olygiaeth Huw Jones, Diddanwch teuluaidd ; yn hwn ceir cerddi beirdd Môn - Goronwy Owen, Lewis Morris, Hugh Hughes, ac eraill. Argraffwyd ef yn Llundain, cafwyd ail argraffiad yn 1817 (Caernarfon), a 3ydd yn 1879 (Lerpwl).
Cyflawnodd Huw Jones waith mawr fel gwerthwr a golygydd llyfrau. Cerddai farchnadoedd a ffeiriau'r wlad yn gwerthu baledi a chwarae rhan mewn anterliwtiau. Nid oes fawr ddim teilyngdod barddonol yng ngherddi Huw Jones. Serch hynny, bu ei lafur llenyddol yn gymorth nid bychan i ennyn a chadw diddordeb gwerin gwlad yn y Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.