o 1559 hyd ei farw. Yr oedd yn nodedig yn herwydd hyd cyfnod ei weinyddiad ac am y cyfuniad o allu, cryfder, a chydymdeimlad a nodweddai'r gweinyddu hwnnw. Sefydlodd gysylltiadau cyfeillgar â theuluoedd bonheddig Cymru. Dangosir ei ddiddordeb yn niwylliant cenedl y Cymry a hynafiaethau'r wlad yn ei sêl yn peri cadw a dosbarthu'r cofysgrifau yn Llwydlo a ddefnyddiwyd gan David Powel (gyda phob cymhelliad a chymorth gan Sidney) i ychwanegu at gasgliadau Humphrey Llwyd fel sylfaen ei Historie of Cambria (1584); dangosir ei ofal dros fuddiannau materol y wlad yn ei arbrofion i ddatblygu diwydiant haearn de-ddwyrain Cymru gyda chymorth gweithwyr celfydd a ddygwyd o'r Almaen (c. 1560) ac i gael copr o Fynydd Parys, sir Fôn, trwy'r dull a elwir yn 'precipitation.' Ceisiodd setlo'r cweryl rhwng ei frawd-yng-nghyfraith, iarll Leicester, a Syr Richard Bulkeley ynglŷn â'r ' Forest of Snowdon '; yn y cweryl hwnnw cynorthwyid Bulkeley gan amryw o sgwieriaid Sir Gaernarfon a oedd yn tueddu at Babyddiaeth; y pryd hwn cafodd Sidney ei hunan ei ddwrdio am ei fod yn rhy glaear gyda'r gwaith o weithredu yn erbyn Pabyddion - dyna paham, efallai, y cofid gyda mesur o serch am gyfnod gweinyddiad Sidney hyd yn oed gan wrthwynebwyr crefyddol a gwleidyddol megis Hugh Owen, Plas Du. Yr oedd yn absennol yn y gwasanaeth diplomyddol yn 1562 ac yn Iwerddon am y rhan fwyaf o 1565-71 a 1575-8; eithr rhoddid gwybod iddo beth a oedd ar droed gan yr is-lywyddion a oedd yn ddirprwyon iddo, a gweithiai'r trefniant hwn yn esmwyth yng nghyfnod William Gerard (1562), ond nid mor esmwyth o dan yr esgob Whitgift - nid oes ddadl nad oedd effeithioldeb gweinyddiad Sidney yn dioddef gan y toriadau hyn a'r gwrthweithio a ddilynodd yn eu sgil. Pan oedd yn gwasnaethu yn rhinwedd ei swydd yr oedd yn byw gan mwyaf yng nghastell Llwydlo; gwnaeth lawer o welliannau yn y castell hwnnw (ac yng nghastell Trefaldwyn), ac yno y dug ei deulu i fyny. Teimlai ei fod yn cael mwy o fodlonrwydd yn ei waith yng Nghymru nag yn Iwerddon; profir hyn gan ei deyrnged - ' A better country to govern Europe holdeth not,' a chan ei ddeisyfiad symbolig am gael claddu ei gorff yn Penshurst eithr ei galon yn Llwydlo - yr hyn a wnaethpwyd.
Cadwyd y cysylltiad â Chymru ymlaen gan ei deulu. Pan nad oedd ond 12 oed cyflwynwyd ei aer, Syr Philip Sidney (1554 - 1586), i reithoraeth leyg Whitford (Sir y Fflint), gwerth £60 y flwyddyn. Priododd ei ail fab (a'i aer fel y digwyddodd), ROBERT SIDNEY (1563 - 1626), iarll Leicester yn ddiweddarach, â Barbara Gamage, aeres stad y Coety, Sir Forgannwg, 23 Medi 1584; daeth ef yn aelod seneddol (1585 a 1592) dros y sir honno ac yn ustus heddwch ynddi (1625). Etifeddwyd y stad gan ddisgynyddion Leicester; yn eu plith yr oedd ei ŵyr, ALGERNON SIDNEY (1622 - 1683), a etholwyd, 17 Gorffennaf 1646, i ddilyn yr aelod seneddol brenhinol dros Gaerdydd (a laddwyd ym mrwydr Edgehill), ac a fu yn y blynyddoedd dilynol yn aelod o amryw bwyllgorau sir ym Morgannwg. Priododd MARY SIDNEY (1561 - 1621), merch Syr Henry Sidney, â Henry Herbert, ail iarll Pembroke.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.