TUDURIAID PENMYNYDD, Môn

— rhai o aelodau diweddarach y teulu; ar ei ddechreuadau, hyd 1412, gweler yr ysgrif ‘Ednyfed Fychan.’

Parhaodd cangen hynaf y Tuduriaid, sef cangen Penmynydd — honno yr oedd Owain Tudur a'i ddisgynyddion brenhinol yn perthyn iddi — i gael ei chynrychioli ymhlith ysgwieriaid Môn hyd ddechrau'r 18fed ganrif. O amser GORONWY (bu farw 1382) trosglwyddwyd stad y teulu o fab i fab am gyfnod o saith cenhedlaeth. OWAIN, ŵyr Goronwy, oedd y cyntaf i fabwysiadu'r cyfenw Tudur, a newidiwyd i fod yn Theodor yn amser ei fab ef, Richard Owen Theodore. Dyma'r enw a ddug pob etifedd dilynol gydag un eithriad, sef pan ddilynwyd mab hŷn gan ail frawd yn adeg Elisabeth. Yr olaf i ddwyn yr enw hwn oedd RICHARD OWEN THEODOR V (fl. 1657), a ddilynwyd gan ferch, MARGARET, gwraig Coningsby Williams, Glan-y-gors. Ni fu plant o briodas Margaret a Coningsby Williams ac aeth stad Penmynydd i feddiant MARY OWEN THEODOR, chwaer Richard Owen Theodor V a gwraig Rowland Bulkeley, Porthamel. Eu mab hwy, sef FRANCIS BULKELEY, a etifeddodd stad Penmynydd; oherwydd ei afradlondeb ef, fodd bynnag, aeth y stad i feddiant teulu Baron Hill cyn iddo ef farw yn 1722.

Gydag aelodau mân foneddigion Môn o'r un dosbarth mewn cymdeithas â hwynthwy eu hunain yr oedd priodasau cenedlaethau dilynol y teulu — megis teuluoedd Presaddfed, Penhesgyn, a Porthamel; ymddengys i briodas gydag aelod o deulu Bolde fod mor fanteisiol nes peri i amryw o blant iau y briodas honno fabwysiadu cyfenw y teulu hwnnw. Nid oes dystiolaeth i unrhyw un o ysgwieriaid Penmynydd rhwng Goronwy a Coningsby Williams (bu ef yn aelod seneddol dros Biwmares) chwarae rhan bwysig hyd yn oed mewn materion lleol. Deuai swydd siryf iddynt yn eu tro yn ystod y 17eg ganrif, eithr hyd yn oed yn y Rhyfel Cartrefol nid ymddengys eu bod yn ddylanwadol mewn unrhyw gyfeiriad. Y mae'n wir i un ohonynt, David Owen Theodor, ei gael ei hun, heb yn wybod iddo fel petai, wedi ymgymysgu mewn modd nad oedd yn weddus mewn mater gwleidyddol yn oes Elisabeth, eithr bychan a dibwys braidd oedd ei gyfran ef yn yr helynt; dywedid hefyd fod ei frawd, John, yn alltud annheyrngar a oedd yn gwasnaethu gelynion y frenhines. Yr oedd yr agendor rhwng y teulu dinod hwn yn y wlad a'u ceraint brenhinol wedi lledu cymaint erbyn 1600 nes bod swyddog a ysgrifennai at Cecil yn petruso cryn lawer ynghylch diffuantrwydd y cyswllt achyddol rhyngddynt a'r teulu brenhinol. A barnu oddi wrth y diffyg lliw pendant yn y bennod arbennig hon o hanes teulu'r Tuduriaid, gellid yn hawdd farnu fod yr holl ysgwieriaid diweddar yn y brif linach yn meddu'r holl nodweddion (neu, o leiaf, rai ohonynt) a briodolodd un o'i gymdogion mwyaf cyfoethog a mwyaf dylanwadol i un aelod o'r teulu — ‘a poor gentleman of mean living, who giveth himself only to good fellowship, pleasure and hunting, without respect of his profit, and of a plain wit.’

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/