Bu aelodau'r teulu hwn yn dal swyddi stiwardiaid a senesgaliaid yn ystod y 14eg ganrif dros arglwyddi Seisnig a oedd yn absennol o Gymru; yr oeddent o'r un llinach â Lewisiaid y Van, Caerffili ac yn deillio, yn ôl achau'r 15fed ganrif, o Gwaethfoed Fawr, Ceredigion. Yr oedd Syr DAVID MATHEW (fl. 1428-84), mab i un o bleidwyr Owain Glyndŵr, yn un o ddibynwyr teulu Neville ac yn flaenllaw ym mhlaid y Iorcaid. O Syr David a'i wraig, Gwenllian Herbert, disgynnodd llinachau Llandaf a Radyr, dwy linach y bu cyd-briodi mynych yn eu hanes. Datblygodd dylanwad y llinach yn fawr wedi brwydr maes Bosworth o dan nawdd a swcr Syr Rhys ap Thomas, a briododd Janet Mathew, eithr yr oedd ei ddylanwad yn lleihau ar ôl marw (1557) Syr GEORGE MATHEW Radyr, aelod seneddol a siryf.
Dynion eraill o bwys ym mywyd gwleidyddol Morgannwg oedd y brodyr Syr DAVID MATHEW (bu farw 1504), Sain Ffagan, a Syr WILLIAM MATHEW (bu farw 1528), Radyr, a'u cefnder Syr CHRISTOPHER MATHEW (bu farw 1527), Llandaf. Y mae cerfddelwau ar orwedd o Syr William a Syr Christopher a'u gwragedd, ac o'u tadcu y Syr David Mathew 1af, yn eglwys gadeiriol Llandaf. O deulu diweddarach Mathewiaid Llandaf, a fabwysiadodd y cyfenw Mathews tua chanol yr 17eg ganrif, cododd un gŵr nodedig - THOMAS MATHEWS (1676 - 1751), Llandaff Court, ' Vice-Admiral of the Red,' pennaeth y lluoedd ym mrwydr Toulon, 1744, ac aelod seneddol sir Forgannwg, 1745-7. Pan fu ei ŵyr ef farw yn 1798, daeth y gangen hon o'r teulu i'w therfyn.
Yn wrthgyferbyniol i aelodau llinell Llandaf, a oedd yn frenhinwyr (eithr yn eithaf diymhongar felly) ac wedi hynny yn Chwigiaid, yr oedd aelodau llinell Radyr yn wastad, yn wleidyddol, ac weithiau yn bur weithredol, yn Gatholigiaid. Cafodd THEOBALD MATHEW (bu farw 1699), mab George Mathew (bu farw 1636), Radyr, a'i wraig Elizabeth, is-iarlles Thurles, faenor Thurles gan ei hanner-brawd, dug 1af Ormond; bu ei ddisgynyddion ef yn dal maenor Llandaf a thiroedd yng Nghymru ac Iwerddon. Yn 1783 cafodd FRANCIS MATHEW, a ddisgynnai'n bedwerydd o Theobald Mathew, ei greu yn arglwydd Llandaf ym mhendefigaeth Iwerddon. Bu ef farw yn Abertawe, 1806; cawsai ei wneuthur yn iarll Llandaf yn 1797. Ei fab ef oedd FRANCIS MATHEW (a fu farw 1833), ail iarll Llandaf (a'r iarll diwethaf); gwerthodd ef y stadau Cymreig i Syr Samuel Romilly yn 1818. Yr oedd Syr JAMES MATHEW (bu farw 1908), arglwydd farnwr Llys yr Apêl, yn chweched yn ei ddisgyniad o Theobald Mathew, Radyr. Disgynnai HENRY MATTHEWS (1826 - 1913), Q.C., a fu'n ysgrifennydd gwladol (Ceidwadwr), 1886-92, o deulu Ceidwadol tiriog a oedd â chysylltiad rhyngddo a llinell Radyr ac wedi ymsefydlu yn Belmont gerllaw Henffordd; crewyd ef yn is-iarll Llandaf yn 1895.
Sylfaenydd Mathewiaid Castell-y-mynach, Pentyrch, oedd ROBERT MATHEW, brawd Syr David Mathew. Sgwieriaid Ceidwadol oeddent hwy; cawsant, trwy briodas, stadau David Jenkins, Hensol. Daeth y llinell i ben gyda CECIL MATHEW a briododd (1708) Charles, yr arglwydd Talbot (o Hensol) 1af, arglwydd ganghellor. O'r gangen hon y disgynnodd TOBIE MATHEW (1546 - 1628) a ddewiswyd yn esgob Durham yn 1595, ac yn archesgob Caerefrog yn 1606, a'i fab Syr TOBIE MATHEW (1577 - 1655), gŵr o gylch y llys brenhinol a chyfieithydd Cyffesion S. Awstin.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.