JENKINS, DAVID (' Judge Jenkins; 1582 - 1663), barnwr

Enw: David Jenkins
Dyddiad geni: 1582
Dyddiad marw: 1663
Priod: Cecil Jenkins (née Aubrey)
Rhiant: Jenkin ap Richard
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: barnwr
Maes gweithgaredd: Cyfraith
Awdur: Henry John Randall

Yr aelod mwyaf adnabyddus o deulu a oedd wedi ymsefydlu yn Hensol ym mhlwyf Pendeulwyn (Pendoylan), Sir Forgannwg - teulu a hawliai fod ei dras yn nodedig ac y bu iddo aelodau o beth pwysigrwydd. Jenkin oedd enw ei dad a Richard ei daid, ac y mae'n debyg mai'r barnwr oedd y cyntaf o'r teulu i fabwysiadu'r cyfenw. Fe'i ganwyd yn 1582; bu farw ar 6 Rhagfyr 1663, ac fe'i claddwyd yn y Bont-faen, lle y mae tabled goffa iddo. Priododd, 7 Medi 1614, Cecil, merch Syr Thomas Aubrey, Llantrithyd, Sir Forgannwg; bu iddynt bedwar mab ac un ferch, eithr diflannodd y llinell wrywol yn y 18fed ganrif. Gor-or-ŵyres iddo ydoedd y Cecil, aeres stadau Hensol, a briododd Charles Talbot, a oedd yn arglwydd ganghellor o 1731 hyd 1737 ac a ddaeth yn arglwydd Talbot (o Hensol).

Graddiodd Jenkins yn Rhydychen yn 1600 a daeth yn fargyfreithiwr yn 1609. Ceir dau gyfnod yn ei fywyd cyhoeddus - cyfnod o dawelwch a cyfnod ystormus a chythryblus yn ystod y Rhyfel Cartrefol. Ychydig a wyddys am y cyfnod cyntaf, eithr y mae'n weddol sicr iddo fod yn brysur ym myd y gyfraith gan iddo gasglu cryn lawer o gyfoeth. Yr oedd wedi gwrthwynebu dull y brenin o godi arian ac wedi gwneuthur yr esgobion yn ddig tuag ato, eithr pan dorrodd y rhyfel allan cefnogodd y brenin mewn modd cadarn a chyson. Yn 1643 dewiswyd ef yn farnwr llys y sesiwn fawr ('Court of Great Session') yng nghylchdaith Caerfyrddin - a hynny yn groes i'w ewyllys, gan fod treuliau'r swydd yn fwy na'r cyflog; oblegid y swydd hon y gelwir ef yn ' Judge Jenkins.' Creodd gasineb tuag ato'i hun ym mynwes gwŷr y Senedd oherwydd iddo gondemnio cynifer o aelodau'r blaid honno i farwolaeth am deyrnfradwriaeth, er i lawer ohonynt lwyddo i ddianc rhag y gosb. O'r herwydd, pan gymerwyd ef ei hunan i'r ddalfa yn Rhydychen yn 1645 a'i gyhuddo o'r unrhyw drosedd, dadleuodd, a hynny'n gwbl resymol, na allai gŵr a gefnogodd ei frenin yn gyson fod yn euog o deyrnfradwriaeth yn erbyn y teyrn hwnnw. Peidiwyd, o'r diwedd, a pharhau i'w gyhuddo, am y credid y byddai'n ddoethach peidio - er lles y wladwriaeth. Yn ystod yr amser y bu yng ngharchar ymddiddorai gan ysgrifennu cyfres o bamffledi dadleuol a gasglwyd ynghyd yn gyfrol a gyhoeddwyd yn 1648. Crynhodd hefyd Reports o ddyfarniadau a roddasid mewn 800 o achosion cyfreithiol - ar ddull casgliad o ' Leading Cases.' Ni chafodd ddyfod yn gwbl rydd hyd ar ôl yr Adferiad; pan gafodd ei ryddid ymneilltuodd i'w stad yn Hensol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.