Gellir trin y teulu blaenllaw hwn fel cyfangorff gan nad oedd yr un aelod ohono o bwys hanesyddol mawr. Yr oedd i'r teulu ddwy nodwedd - cart achau hir, a dawn arbennig i ychwanegu at y stad.
Ef oedd y cyntaf i fabwysiadu'r cyfenw. Efe a adeiladodd rannau hynaf Van, gerllaw Caerffili, ac a amgaeodd y parc o gylch y plasty. Prynodd y rhan o stad abaty Keynsham a oedd yn cynnwys maenor Roath-Keynsham. Bu'n siryf Morgannwg yn 1548, 1555, a 1559. Priododd Ann, merch Syr William Morgan, Pencoyd, sir Fynwy, aelod o deulu Tredegar.
Mab Edward Lewis. Bu'n siryf Morgannwg yn 1569. Ei wraig gyntaf ef oedd Margaret Gamage, Coety, a oedd yn weddw Miles Mathew, Llandaf, ar y pryd. Ychwanegodd at y Van ac adeiladodd dŷ'r teulu yn S. Mary Street, Caerdydd; gorffennwyd tynnu'r tŷ hwn yng Nghaerdydd i lawr yn 1865. Bu farw yng Nghaerdydd 2 Tachwedd 1594. Y mae'r 'inquisitiones post mortem' a gynhaliwyd ar ôl ei farw ef o gryn bwys i haneswyr lleol.
Mab hynaf Thomas Lewis, y gŵr a roes fywoliaeth Llanfaches i William Wroth, a fu'n siryf Morgannwg yn 1601 a 1612 ac a urddwyd yn farchog yn 1603. Bu'n ymgyfreithio'n helaeth ac ychwanegodd lawer at y stad. Ei bryniad mwyaf diddorol ydoedd castell Sain Ffagan, a bwrcasodd gan Syr William Herbert, Caerdydd, yn 1616 - Amgueddfa Werin Genedlaethol Cymru erbyn hyn; yr oedd yr hyn a brynwyd yn cynnwys y plasty presennol a adeiladwyd gan Dr. John Gibbon c. 1590. Bu farw 9 Ionawr 1628.
Cafodd ei urddo'n farchog yn 1603. Yr oedd ef yn byw yn Edington, Wiltshire, eiddo y cymerodd brydles arno. Yr oedd yn ' Gentleman of the Privy Chamber' i'r tywysog Harri, mab hynaf Iago I, yn 1610, ac yn ddiweddarach i'r tywysog Siarl. Bu farw yn Edington ar 10 Hydref 1630 - ddwy flynedd ar ôl marw ei dad.
Etifeddodd y stad, a phriododd Margaret, aeres stadau Brill a Bostal ac a ychwanegodd atynt. Yr oedd ef yn gryf o blaid y Senedd.
Y nesaf o'r teulu; ganwyd 30 Gorffennaf 1650. Gadawodd ef y stad yn Sir Forgannwg i'w ewythr
gyda threfniant ei bod i ddisgyn o wryw i wryw ('in tail male'). Prynodd Richard Lewis faenor Corsham ac yno y claddwyd ef. Bu farw 7 Hydref 1706. Gwyddys iddo ef esgeuluso Van; y mae'n bosibl mai efe a ddechreuodd adael iddo ymddadfeilio.
Mab Richard Lewis oedd y 'Lewis o'r Van' diwethaf. Nid oes sicrwydd ynghylch blwyddyn ei eni, ond y mae'n ddiau i hynny ddigwydd cyn 1668. Bu'n aelod seneddol dros wahanol etholaethau am lawer o flynyddoedd. Bu farw ar 22 Tachwedd 1736 yn Soberton, Hampshire, eiddo ei wraig. Gadawodd unig ferch, ELIZABETH, yn aeres iddo; priododd hi Other Windsor, 3ydd iarll Plymouth.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.