FIELD, THEOPHILUS (1574 - 1636), esgob

Enw: Theophilus Field
Dyddiad geni: 1574
Dyddiad marw: 1636
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 1574, bu farw 2 Mehefin 1636; bu'n esgob Llandaf 1619-27, Tyddewi 1627-35, a Henffordd 1635-6. Adroddir hanes ei yrfa bur fraith yn y D.N.B. Yr unig reswm dros ei gynnwys yn y gyfrol hon yw mai efe a roes fenthyg Llyfr Llandaf i John Selden, ac mai Field yw'r esgob diwethaf a dorrodd ei enw yn y llyfr. Dyna'r sut na chafodd Llandaf byth mo'r llyfr yn ei ôl; treiglodd o ddwylo Selden i ddwylo ei ysgutor John Vaughan o'r Trawsgoed, oddi yno (trwy briodas) i ddwylo teulu Robert Davies o'r Llannerch a Gwysaneu, ac felly yn y diwedd i'r Llyfrgell Genedlaethol (Cylchgrawn Lyfrgell Genedlaethol Cymru, haf 1946, 123-4).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.