LLEISION ap THOMAS (fl. 1513-41), abad olaf Mynachlog Nedd

Enw: Lleision ap Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: abad olaf Mynachlog Nedd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Evan John Saunders

a gŵr o gryn ddylanwad ym Morgannwg yn nyddiau'r brenin Harri VIII. Yn 1513 (y cofnodiad cyntaf amdano, os nad ef oedd y Dom Lyson Thomas hwnnw a urddwyd yn ddiacon yn Ledbury gan esgob Henffordd, 24 Mawrth 1509) ceir ef yn un o'r comisiwn heddwch a benodwyd i ymgynnull yng Nghaerdydd ac eto yn 1534. Yn 1532 cymerodd ran bwysig ynglŷn â therfysg rhwng rhanbarthau'r Cymry a'r Saeson ym Mroŵyr, a chyfeiriwyd ato ar yr achlysur hwnnw fel gŵr blaenllaw ym mywyd cyhoeddus yr ardal. Mae'n amlwg ei fod yn fawr ei barch gan y Sistersiaid, oblegid ef oedd un o bump o'r urdd a benodwyd gan y brenin i ymweled â'r tai Sistersiaidd drwy'r deyrnas yn 1532 ac i ddiwygio Coleg S. Bernard yn Rhydychen er cynnydd dysg a rhinwedd. Yn ei awdl enwog i Leision, canmolir yr abad yn fawr gan Lewys Morgannwg am ei ddysg a'i dduwioldeb, a dywed fod mynachlog Nedd yn gartref i ddiwylliant Cymru ac yn noddfa i'w hiaith. Pan ddiddymwyd y mynachlogydd mân yn 1536, estynnwyd bywyd abaty Nedd drwy i'r abad dalu £150. Ond er hynny gorfu i Leision ymddiswyddo ar 9 Chwefror 1539 gan roddi i fyny feddiannau'r fynachlog yn llwyr i'r brenin. Gwnaeth Syr John Price, dirprwy'r Goron, apêl daer i Thomas Cromwell am driniaeth hael tuag at abad Nedd, ac ni fu'n ofer, oblegid rhoddwyd iddo bensiwn o £48 a rheithoraeth Llangatwg ar yr amod ei fod yn ymadael pan gaffai ddyrchafiad eglwysig amgenach. Clywir ddiwethaf amdano yn 1541.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.