GWILYM TEW (fl. c. 1470) un o feirdd Morgannwg

Enw: Gwilym Tew
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: un o feirdd Morgannwg
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Griffith John Williams

Dywaid y llyfrau achau ei fod yn fab i Rys Brydydd, ond y mae gennym rai ffeithiau sy'n awgrymu mai brawd i'r pencerdd hwnnw ydoedd. Gwelir, felly, ei fod yn aelod o'r teulu enwocaf o benceirddiaid a fu ym Morgannwg erioed, disgynyddion Rhys Fychan o Dir Iarll, o hil Einion ap Collwyn. Er bod Rhys Brydydd yn byw yn Llanharan, gellir tybied mai yn Llangynwyd, hen ganolfan y llwyth, y trigai Gwilym Tew, a geilw Dafydd Benwyn ef yn 'Gwilym tew brydydd o dir jarll.' Dengys ei gywyddau ei fod yn blodeuo tua 1460-80. Cân i foneddigion y Blaenau ac i ddisgynyddion y Normaniaid a'r Saeson yn y Fro, ac âi ar ei deithiau clera i Gydweli ac Ewias, ac efallai i Faelienydd. Nid yw'n bwysig fel bardd. Nid oes gamp ar ei gywyddau a'i awdlau, ac ofer fyddai ei osod ochr yn ochr â phenceirddiaid mawr y Gogledd yn yr oes honno. Ond y mae'n bwysig fel 'pencerdd' ac fel gwr hyddysg yn y traddodiadau barddol. Nid oes amheuaeth nad oedd ef, megis ei gyfoeswyr, Dafydd ab Edmwnt a Dafydd Nanmor, yn ceisio rhoi trefn ar fesurau cerdd dafod, a dyna sy'n egluro ei awdl enghreifftiol lle y gwelir mesurau nas cydnabyddid gan yr hen athrawon, yr 'ofer fesurau.' A dyma'r awdl a roes Siôn Dafydd Rhys yn ei Ramadeg (1592) fel enghraifft o awdlau'r 'oes gyntaf.'

Nid mydryddiaeth yn unig a gafodd sylw Gwilym Tew. Torrodd ef a Dafydd Namor eu henwau yn ' Llyfr Aneirin,' a dywaid mai ef bioedd y llawysgrif. Fe'i hastudiodd, a chasglodd y geiriau dieithr a geir ynddi, a cheisio eu hegluro. Heblaw hyn, ef yw'r bardd cyntaf o Forgannwg y gellir profi ei fod yn gopïwr llawysgrifau. Llyfr o'i waith ef ydyw Peniarth MS 51 , lle y ceir casgliad o gerddi ac o draethodau Cymraeg, gan gynnwys y 'Dwned,' sef y gramadeg a astudid yn ysgolion y beirdd. Felly, y mae Gwilym Tew yn ffigur gweddol bwysig yn hanes llenyddiaeth Gymraeg yn y 15fed ganrif.

Casglwyd ei gywyddau a'i awdlau gan J. M. Williams, o Abertawe, ac y mae'r casgliad yn awr ymhlith llawysgrifau'r Brifysgol yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.