Dywed ei gyfoeswr, Sils ap Siôn, mai gwr o Langeinwyr ydoedd. Ei athro barddol ydoedd Rhisiart Iorwerth o Langynwyd, mab Iorwerth Fynglwyd. Ceir peth o'i waith yn ei law ef ei hun yn Llsgr. Caerdydd 10 ac yn Llanstephan MS 164 , ac y mae gennym ddau gasgliad mawr o'i awdlau a'i gywyddau, y naill yn Llsgr. Caerdydd 2 (277), a'r llall yn Llsgr. Coleg Iesu 13. Ef yw'r mwyaf toreithiog o feirdd Morgannwg, a chanodd gerddi o fawl i'r rhan fwyaf o deuluoedd bonheddig y sir ac i uchelwyr Gwent. Er ei fod yn ddisgybl i Risiart Iorwerth (a hefyd i Lewis Morgannwg, efallai), ac er iddo etifeddu dysg yr hen benceirddiaid, canu cyffredin, ystrydebol, a geir ganddo. Nid oes dim yn dangos yn well y dirywiad a fu ym Morgannwg yn ail hanner yr 16eg ganrif na chymharu ei awdlau a'i gywyddau ef â gwaith Lewis Morgannwg a Risiart Iorwerth. Er hynny, y maent yn bwysig am ddau reswm. Yn gyntaf, cynhwysant achau llawer iawn o deuluoedd Gwent a Morgannwg. Ac yn ail, y maent y rhoddi inni ffurfiau Cymraeg enwau lleoedd yn y parthau hynny. Cyhoeddwyd detholiad bychan ohonynt gan John Kyrle Fletcher yn 1909, The Gwentian Poems of Dafydd Benwyn. Cyhoeddwyd cywyddau eraill gan 'Cadrawd' yn Cyfaill yr Aelwyd .
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.