EVANS, THOMAS CHRISTOPHER ('Cadrawd'; 1846 - 1918), hynafiaethydd, hanesydd lleol, a chasglydd llên gwerin

Enw: Thomas Christopher Evans
Ffugenw: Cadrawd
Dyddiad geni: 1846
Dyddiad marw: 1918
Priod: Elizabeth Evans (née Thomas)
Plentyn: Frederic Evans
Rhiant: Jane Evans
Rhiant: Thomas Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd, hanesydd lleol, a chasglydd llên gwerin
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awduron: David Myrddin Lloyd, Arwyn Lloyd Hughes

Ganwyd 28 Rhagfyr 1846, mab Thomas Evans, clerc plwyf Llangynwyd, a Jane ei wraig. Thomas yw unig enw bedydd y mab yntau yn ôl y cofnod. Yr oedd y tad (bu farw 30 Rhagfyr 1877 yn 75 oed) yn Eglwyswr selog a hyddysg iawn yng ngweddïau a threfn a hanes yr Eglwys, ond ei wraig yn Fethodist, ac yntau'n groesawgar i bregethwyr Methodistaidd, a cheir disgrifiadau byw a diddorol ohono ac o'i gartref gan Edward Matthews, Ewenni, droeon yn Y Cylchgrawn, yn enwedig Chwefror 1878. O 1841 hyd at 1891 offeiriad plwyf Llangynwyd oedd y Parch. Pendril Llewelyn, gwr yr oedd ganddo ef a'i wraig lawer o ddiddordeb yn hynafiaethau a diwylliant gwerin Morgannwg. Yr oedd ganddo hefyd lyfrgell dda, a chafodd mab clerc y plwyf bori llawer ynddi. Bu i Mrs. Pendril Llewelyn ran bwysig mewn taenu'r stori am ' Y Ferch o Gefn Ydfa,' a ' Cadrawd ' yr un modd, yn enwedig trwy ei History of the Parish of Llangynwyd, 1887. Yn 1894 amddiffynnodd ef y stori o flaen Cymmrodorion Casnewydd yn erbyn 'Dafydd Morganwg.'

Gof oedd 'Cadrawd.' Bu ddwywaith yn ystod ei ieuenctid yn America, ac yn canlyn ei alwedigaeth yn Pittsburgh lle yr oedd yn aros gyda pherthnasau. Ond yn yr 'Hen Blwyf' yr oedd ei fryd, ac yno y treuliodd y rhan helaethaf o'i oes. Priododd Elizabeth Thomas o Gaerfyrddin, a ddaethai i Langynwyd yn ysgolfeistres, ac a ddaliodd y swydd am agos i 30 mlynedd, er iddi gael wyth o blant ei hun, heb golli ond un ohonynt yn ei fabandod. Yr oedd gan 'Cadrawd' ddiddordeb ym mhob agwedd o fywyd ei fro. Casglodd i'w gartref, sef 'Ty Cynwyd,' yn ymyl mynwent ei blwyf, bob math o hen ddodrefn, a hen offer ffarm a chrefft, a throsglwyddwyd llawer o'r rhain i Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Yr oedd yn ysgrifennydd toreithiog i gylchgronau a newyddiaduron, megis Cyfaill yr Aelwyd , Cymru (O.M.E.), a phapurau Saesneg Caerdydd. Enillodd gyntaf yn yr eisteddfod genedlaethol yn Aberdâr yn 1885 gyda'i gasgliad helaeth o lên gwerin Morgannwg. Cyhoeddwyd y gwaith pwysig hwn yng nghyfrol cyfansoddiadau'r eisteddfod honno, ac y mae'n cynnwys, ymhlith pethau eraill, y casgliad llawnaf a brintiwyd erioed o dribannau Morgannwg. Enillodd droeon wedi hyn a'r tro olaf am draethawd ar enwau lleol Cymraeg yn siroedd y gororau. Cafodd fedal aur yr eisteddfod genedlaethol hefyd. Deuddydd cyn ei daro'n wael yn haf 1918 anfonodd i fewn ei feirniadaeth ar draethawd ar hanes dyffryn Nedd (D. Rhys Phillips oedd yn fuddugol, a'r traethawd hwn oedd cnewyllyn ei lyfr ar y pwnc).

Fel y dengys papurau 'Cadrawd,' sydd heddiw yn Llyfrgell Dinas Caerdydd, bu ef yn gohebu â llawer o ysgolheigion ei ddydd, gan gynnwys Syr John Rhys, a bu'n aros gyda Syr Joseph Bradney pan oedd hwnnw'n llafurio ar hanes sir Fynwy. Yn 1910 cyhoeddwyd Hen Gwndidau, Carolau a Chywyddau Morgannwg, a olygwyd gan L. J. Hopkin-James a ' Cadrawd.' Yn 1913 cyhoeddwyd ei gyfrol, Gwaith Iolo Morganwg, yn ' Cyfres y Fil.'

Bu ynglyn ag amryw gymdeithasau Cymraeg, megis yr Orsedd, y Cymmrodorion, a'r Cambrian Archaeological Association. Ef oedd ysgrifennydd cyntaf Cymrodorion Tir Iarll, a sefydlwyd yn gynnar yn yr 20fed ganrif, ac ef a luniodd ei bathodyn. Adeg diwygiad 1904-5 cyfansoddodd rai emynau. Bu farw 24 Gorffennaf 1918. Fe'i claddwyd yn Llangynwyd yn ymyl bedd Samuel Jones, Brynllywarch. Y mae llawer o'i lyfrau yn Llyfrgell Dinas Caerdydd, ac eraill yn llyfrgell Coleg Abertawe. Blwyddyn wedi ei farw, rhoes y Llywodraeth deyrnged i'w wasanaeth trwy roi pensiwn gwladol o £50 i'w weddw, a fu fyw i'w dderbyn am 10 mlynedd.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.