Ganwyd ym Merthyr Tydfil, 14 Chwefror 1832, mab John Jones, cefnder i Daniel Evans ('Daniel Ddu o Geredigion'). Dechreuodd weithio yn y lofa cyn ei fod yn 10 mlwydd oed. Gwrthododd hyfforddiant ar gyfer yr Eglwys, a thrwy ei ddyfalbarhad cafodd ei wneud yn danwr yn 1859, ac yn yr un flwyddyn enillodd ei wobr eisteddfodol gyntaf. Gwasnaethodd y Compagnie Générale Transatlantique fel goruchwyliwr am 30 mlynedd.
Bu yn eisteddfodwr llwyddiannus iawn, yn cael ei brif wobrwyon ym Machynlleth 1870, Llanberis 1878, a Chaerdydd, 1883. Sgrifennodd lawer i'r Geninen a chylchgronau eraill, a chyfrannodd yn helaeth i Cymru (O.J.). Yn 1874, cyhoeddodd ei Hanes Morganwg. Ond ei waith mwyaf adnabyddus, efallai, yw Yr Ysgol Farddol, gwerslyfr barddonol a gyhoeddwyd gyntaf yn 1869. Cyhoeddodd hefyd ramadeg defnyddiol yn ei ddydd, Yr Ysgol Gymreig. Bu'n olygydd y golofn Gymraeg yn y Cardiff Times am flynyddoedd lawer. Yn 1888 cafodd ei ethol yn llywydd cyntaf Cymdeithas Cymmrodorion Caerdydd. Bu farw 25 Ebrill 1905 yng Nghaerdydd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.