A barnu wrth un cyfeiriad yn ei gywydd i 'hwsmonaeth,' gellir bwrw ei fod yn byw (fel y mynnai ' Iolo Morganwg ') heb fod nepell o gyffiniau Radyr a Llandaf. Sonnir mewn un llyfr achau am ryw Sils ap Siôn a oedd yn byw yng nghwmwd Meisgyn, ac y mae'n bosibl mai'r bardd ydoedd. Ceir casgliad bychan o'i waith ef a rhai o'i gyfoeswyr (yn ei law ef ei hun, yn ôl pob tebyg) yn llawysgrif Llanover B 6. Cywyddau a ganwyd i William Evans, trysorwr a changhellor Llandaf, un o brif noddwyr y beirdd ym Morgannwg yn y dyddiau hynny, ydyw llawer ohonynt. Nid oes ryw lawer o gamp ar waith Sils ap Siôn. Cynhwysir un englyn 'extempore' a ganodd pan gyfarfu cwmpeini o brydyddion o flaen William Evans a Thomas Lewis o Landaf ' i gany ar wawd am y vaistrolaeth.' Dyma, yn ddiamau, y math o gyfarfod a alwyd yn 'eisteddfod' yn y 18fed ganrif.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.