EVANS, WILLIAM (bu farw 1589/90), uchelwr clerigol

Enw: William Evans
Dyddiad marw: 1589/90
Rhiant: Ieuan ap Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: uchelwr clerigol
Maes gweithgaredd: Crefydd; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd ym maenordy Llangatwg-feibion-Afel, sir Fynwy, yn fab hynaf (medd Clark) i Ieuan ap Thomas (geilw Dafydd Benwyn y tad yn ' Siôn '), disgynnydd (trwy fab gordderch) i Syr William ap Thomas o Raglan, ac felly un o dylwyth yr Herbertiaid; daliai William Evans fywoliaeth y plwyf (ym mharc y plas y mae'r eglwys) a chyda hi guradiaeth gyfagos, y gorfodwyd ef yn 1563 i roi curad ynddi. Yr oedd hefyd yn berson Sain Ffagan yn 1560. Ond yn Llandaf yr oedd yn byw. Bu'n ganghellor esgobaeth Llandaf (nid y cabidwl) o 1550 hyd ei farw, ac o 1558 neu 1559 hyd ei farw yn ganon a thrysorydd yr eglwys gadeiriol. Yr oedd hefyd yn brebendari yn Exeter (nodir hynny ar garreg ei fedd; penodwyd ei olynydd fis Mai 1590), ac efallai hefyd yn Henffordd (ni ddywedir hynny ar ei feddrod, ond yr oedd rhyw ' William Evans ' yn dal prebend yno yn 1560 ac yn 1580). Yn ôl Foster (Alumni Oxonienses), cafodd radd B.C.L. yn Rhydychen ar 18 Gorffennaf 1552 - ' L.L.B. ' meddai carreg ei fedd. Amheuid ef tua 1558 o ogwyddo at Babyddiaeth; ond wfftia ei gyfeillion y beirdd y syniad hwnnw. Yn wir, ni cheir arwydd y poenid ef gan amheuon diwinyddol, nac o ran hynny fod ganddo ofal mawr dros fuddiannau ei eglwys, oblegid ni all nad oedd yn ddarn-gyfrifol (ac yntau'n drysorydd) am gyflwr adfydus eglwys Llandaf, a ddatguddiwyd pan wnaeth yr esgob William Blethin ei ymweliad swyddogol â Llandaf yn 1575. Uchelwr mewn urddau, a dyna'r cwbl, gellid meddwl. Bu farw 5 Ionawr 1589/90, a'i gladdu yn eglwys Llandaf.

Ond yr oedd iddo ochr arall hynod ddiddorol: yr oedd yn noddwr prydyddiaeth. Geilw Dafydd Benwyn ef yn 'Ifor Hael Llandaf,' a dywed fod ganddo 'fardd teulu,' Maredudd ap Rhoser. Gadawodd Sils ap Siôn gasgliad o brydyddiaeth a ganwyd i'r canghellor gan gynifer ag wyth o feirdd; noda hefyd iddo fod yn un o ddau feirniad yn Llandaf ar gwrdd o feirdd a gystadlai ar englynu'n fyrfyfyr - y math o gwrdd a alwyd yn ddiweddarach yn 'eisteddfod.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.