RHISIART FYNGLWYD, bardd (fl. 1510-70).

Enw: Rhisiart Fynglwyd
Rhiant: Iorwerth Fynglwyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: David Myrddin Lloyd

Mab Iorwerth Fynglwyd, ac athro cerdd i Ddafydd Benwyn. Fe'i gelwir hefyd wrth yr enw Rhisiart Iorwerth. Er bod cartref ei dad yn Saint-y-Brid, yr oedd Rhisiart yn byw yn Nhir Iarll. Canodd gywyddau serch yn ei ieuenctid, ac yna gerddi caeth o fawl ar yr hen fesurau i uchelwyr Morgannwg, Sir Gaerfyrddin, a sir Frycheiniog, yn bennaf. Ymhlith y cerddi hyn fe geir amryw i'r Dwniaid, ac yn arbennig i Ruffudd Dwnn o Ystrad Merthyr, a'i fab Harri. Yr oedd yn Ystrad Merthyr ar wyliau'r Sulgwyn 1531 a 1533, ac ar Ddydd Gŵyl Dewi, 1536 a 1537, ac ym mhlas Syr Siors Herbert yn Abertawe tua 1543. Dywaid G. J. Williams am ei waith: ' Efallai y mwyaf diddorol yw'r cywydd heddwch rhwng Syr Siors Herbert a Mr. Edward Mawnsel,' a hefyd mai Rhisiart Fynglwyd, a oroesodd Lewys Morgannwg, oedd yr ' olaf o feirdd pwysig y dalaith (sef Morgannwg) yng nghyfnod y canu caeth.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.