EINION ap COLLWYN (fl. 1100?),

Enw: Einion ap Collwyn
Plentyn: Thomas Artemus Jones
Rhiant: Collwyn
Rhiant: Cadifor ap Collwyn
Rhiant: Collwyn ap Gwaethfoed
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Robert Thomas Jenkins

y gŵr y cytuna hen draddodiadau iddo, wedi ffraeo â Iestyn ap Gwrgant, wahodd y Normaniaid i oresgyn Morgannwg. Ffigur hanner-chwedlonol yw ef, ac y mae'n awgrymog fod o leiaf dair stori am ei dras. Dywed un ei fod yn fab i Gollwyn ap Gwaethfoed o Geredigion; un arall mai mab oedd i Gadifor ap Collwyn o Ddyfed; ond yn ôl beirdd fel Lewis Glyn Cothi a Gwilym Tew, gŵr o Wynedd ydoedd, a ddaeth i Forgannwg yn amser Iestyn - dywed George Owen o'r Henllys fod ei dad, Collwyn, yn nai i Angharad, ferch Ednowain ap Bleddyn o Ardudwy, a mam Iestyn. Mwy awgrymog fyth yw'r ffaith nad oes sillaf am Einion yn llyfr Syr John Lloyd ar hanes Cymru (gweler ei nodyn ar waelod t. 402), ac na fwriadai ei gynnwys yn y Bywgraffiadur hwn. Casglwyd y traddodiadau amdano, am y teuluoedd o'r Blaeneudir a honnai ddisgyn ohono, ac am ei gysylltiadau â thraddodiad llenyddol Morgannwg, yn llyfr yr Athro G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (mynegai).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.