DEE, JOHN (1527 - 1608), mesuronydd a seryddwr

Enw: John Dee
Dyddiad geni: 1527
Dyddiad marw: 1608
Rhiant: Rowland Dee
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: mesuronydd a seryddwr
Maes gweithgaredd: Gwyddoniaeth a Mathemateg; Y Gofod a Hedfan
Awduron: John James Jones, Llewelyn Gwyn Chambers

Ganwyd 13 Gorffennaf 1527, yn Llundain, mab Rowland Dee, boneddwr yng ngwasanaeth Harri VIII. Yr oedd yn ŵyr i Bedo Ddu o Nant-y-groes, Pyllalai (Pilleth), Maesyfed a chadwodd ei gysylltiad â'r ardal. Hanoedd y teulu o sir Faesyfed (gweler J. D. Rhys, Cambrobrytannicae Cymraecaeve Linguae Institutiones, 60); lluniodd Dee ei hun ach a amcanai ddangos ei fod o hil Rhodri Mawr. Er nad oes tystiolaeth o blaid yr hyn a ddywedir yn Archæologia Cambrensis, 1858, 472, sef ei fod yn frodor o Fugeildy, ger Trefyclawdd, sir Faesyfed, dengys ei ysgrifau bywgraffyddol fod ganddo nifer o Gymry ymhlith ei gyfeillion neilltuol, megis rhai o'r Herbertiaid, John Dafydd Rhys, a Morris Kyffin. Ymhellach, y mae un llythyr o'i eiddo yn cysylltu ei deulu yn bendant â sir Faesyfed. Y mae y llythyr hwn yn awr yn Peniarth MS 252 , yn ei lawysgrifen ef ei hun, ac wedi ei gyfeirio at 'cosens' William, Thomas, a John Lewis. Yr olaf o'r rhain oedd y John Lewis o Lynwene, Llanfihangel Nant Melan, sir Faesyfed, i'r hwn y perthynai'r papurau sydd yn awr yn ffurfio'r MS a grybwyllwyd ( F. G. Payne yn N.L.W. Journal, i, 42-3). Enwir Lewis lawer gwaith yn nyddiadur Dee. Galwai Thomas Jones ', ' Twm Siôn Cati) yr oedd yn ymwneud tipyn ag ef, hefyd yn ' cousin '.

Graddiodd Dee yng Ngholeg S. Ioan, Caergrawnt, 1544-5, a phan sefydlwyd Coleg y Drindod yn 1546, penodwyd ef yn un o gymrodyr gwreiddiol y coleg. Aeth ar daith i'r Iseldiroedd yn 1547, a bu'n efrydydd yn Louvain o 1546 hyd 1550. Yna fe aeth i Baris a darlithio ar fesuroniaeth yng Ngholeg Rheims yno gyda bri a llwyddiant. Gwrthododd wahoddiad i fod yn ddarlithydd parhaol yno, fel y gwnaeth â gwahoddiad cyffelyb o Rydychen yn 1554. Bu farw Rhagfyr 1608.

Cafodd waredigaeth brin rhag ei erlid yn amser y frenhines Mari, ond cafodd ffafr yng ngolwg y frenhines Elisabeth, a gwnaeth ei gartref ym Mortlake, ger Llundain. Eto, yn araf y deuai gwobrwyon materol, a bu raid iddo aros hyd 1595-6 cyn cyflawni o Elizabeth ei haddewid a'i wneud yn 'Warden' y coleg ym Manceinion, lle yr arhosodd hyd Tachwedd 1604.

Meddai Dee ar fedr a dysg diddadl mewn mesuroniaeth a seryddiaeth, ond yr oedd braidd yn rhy barod i geisio addasu'r gwyddorau at broblemau peirianyddol. Gwelir hyn, er enghraifft, yn ei ragymadrodd dysgedig i argraffiad cyntaf gwaith Euclid yn Saesneg, 1570. Er pan wnaeth argraff ddofn ar y gwrandawyr yng Nghaergrawnt gyda'i ddyfais gywrain ar y llwyfan pan yn cynhyrchu un o ddramâu Aristophanes, dioddefodd Dee yn anhaeddiannol oddi wrth ragfarn pobl anwybodus na welent yn ei fedrusrwydd ddim amgen na phrawf ei fod mewn cyfathrach ag ysbrydion drwg. Ysywaeth, tueddai ymddygiad Dee i gadarnhau'r rhagfarn. Nid oedd i'w feio am ei fod yn sêr-ddewin, oblegid yr oedd sêrddewiniaeth ar y pryd mor barchus â seryddiaeth, nac am ei fod yn alchemist, gan fod dysgedigion o fri yn ddiwyd iawn yn eu hymchwil am yr 'eurfaen.' Ond cyfeiliornodd Dee o ffyrdd gwyddonwyr didwyll pan ddechreuodd ddal cyfathrach ag ysbrydion. Y mae'n anodd esbonio sut y daeth i goleddu'r gred mewn ysbrydion. Efallai fod y twyll-ymddangosiadau a gynhyrchwyd gan ei wydr lledrith yn gyfrifol i raddau am y gred. Sut bynnag fe'i twyllwyd gan yr hocedwr rhonc, Edward Kelly, a dderbyniodd yn gyd-weithiwr. Yn neilltuol pan oeddynt yn trigo ym Mohêm o 1585 hyd 1588, ymddiriedwyd i Kelly y gorchwyl o alw ar yr ysbrydion a dehongli eu neges. Nid rhyfedd i Iago I wrthod cais Dee am gyfiawnhad yn wyneb yr enllib ei fod yn un a alwai ar ysbrydion.

Nid oes modd mesur gwerth gweithiau Dee oherwydd bod y mwyafrif ohonynt eto mewn llawysgrif heb eu cyhoeddi. Ond pe bai wedi glynu wrth wyddoniaeth bur a pheidio ag ymyrryd a'r cyfrin a'r cudd, y mae'n lled amlwg y cyfrifid ef ymhlith arloeswyr blaenaf gwyddoniaeth.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.