Ganwyd 6 Tachwedd 1840, yn Bailey, Gwynfe, Sir Gaerfyrddin, trydydd mab David Williams, Blaenllynant, gweinidog gyda'r Annibynwyr ac amaethwr, ac Eleanor ei wraig. Cafodd ei addysg mewn ysgol yn y pentref, yn y 'Normal School,' Abertawe (yr oedd â'i fryd ar fyned i'r weinidogaeth y pryd hwn), ac ym Mhrifysgol Glasgow (1857-8). Ar 20 Gorffennaf 1859 prentisiwyd ef gyda'r meddygon W. H. Michael ac Ebenezer Davies, Abertawe; aeth i University College Hospital, Llundain, yn 1861 (M.B., 1866; M.D., 1867; F.R.C.P.). Dychwelodd i Abertawe i ddilyn ei alwedigaeth; yn Abertawe hefyd y dechreuodd gasglu'r llyfrgell breifat gyfoethog y daeth cymaint o sôn amdani yn nes ymlaen - sef y llyfrgell a oedd yn sylfaen casgliadau llyfrgell genedlaethol i Gymru. Priododd, yn 1872, â Mary Elizabeth Anne, merch Richard Hughes, Ynystawe, gerllaw Abertawe. Dychwelodd i Lundain cyn bo hir, gan ei gysylltu ei hun â'r ysgol feddygol a'r ysbyty y cafodd ei addysg ynddynt. Pan adawodd Llundain, maes o law, yr oedd yn athro 'emeritus' Prifysgol Llundain mewn bydwreigiaeth ac yn feddyg ymgyngoniadol mygedol yn yr un pwnc. Daeth hefyd yn enwog fel meddyg ymarferol wrth ei waith, a hyn, ynghyd â'i gysylltiad â'r gwaith yn University College, a barodd iddo o 1886 gael gweinyddu ar y teulu brenhinol, yn enwedig ar adeg geni'r plant. Daeth amryw fathau o anrhydeddau i'w ran - ei wneuthur yn farwnig gan y frenhines Victoria yn 1894, yn K.C.V.O. yn 1902, a'i ddyrchafu i fod yn G.C.V.O. yn 1911; cafodd ei anrhydeddu hefyd gan frenin Denmarc ('Grand Cross of Dannebrog'); a rhoes rhai o'r prifysgolion eu graddau ('er anrhydedd') iddo - LL.D. (Edinburgh, Glasgow, ac Aberdeen), a D.Sc. Cymru yn 1905. Ar bwnc bydwreigiaeth y mae'r rhan fwyaf o'r papurau a gyhoeddodd.
Ymunodd John Williams yn gynnar â'r gwyr (yn Llundain ac yng Nghymru) a oedd yn gweithio dros fuddiannau Cymru a mudiadau Cymreig. Yr oedd yn arloesydd y mudiad a drefnodd ysbyty Cymreig yn Ne Affrica adeg rhyfel y Boëriaid a bu'n gweithio'n ddyfal hefyd gyda'r mudiad a geisiai atal difrod y darfodedigaeth yng Nghymru. Yr oedd yn un o sylfaenwyr ' Record Series ' Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Yn 1903 dychwelodd i Gymru (Plas Llansteffan, Sir Gaerfyrddin) er mwyn bod yn nes at y sawl a oedd yn llafurio yng Nghymru ei hunan gyda'r un amcanion ag yntau. Yr oedd ei lyfrgell breifat yn parhau i gynyddu ac yntau cyn hyn wedi sicrhau mai i'w feddiant ef y deuai'r llawysgrifau gwerthfawr a oedd yn Peniarth, Sir Feirionnydd, pan fyddai'r perchenogion y ddeufrawd W. R. M. Wynne ac Owen Slaney Wynne (gweler yr ysgrif ar y teulu), farw. Yr oedd eisoes wedi penderfynu trosglwyddo'r llawysgrifau hyn a chynnwys ei lyfrgell ei hun i Lyfrgell Genedlaethol Cymru os sefydlid hi yn Aberystwyth. Yr oedd yn llywydd Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ac yn cyd-weithio â phwyllgor llyfrgell genedlaethol Gymreig y coleg hwnnw. Pan benderfynodd is-bwyllgor o'r Cyfrin Gyngor a benodwyd gan y Llywodraeth (1905) mai Aberystwyth a gâi fod yn gartref i'r Llyfrgell Genedlaethol (a Chaerdydd i'r Amgueddfa Genedlaethol) naturiol oedd enwi Syr John Williams (yn y starter frenhinol a gafwyd yn 1907) yn llywydd cyntaf llys llywodraethwyr y Llyfrgell a oedd i gychwyn ei gyrfa yn Aberystwyth ar 1 Ionawr 1909. Fel y digwyddodd daeth llawysgrifau Peniarth yn eiddo i Syr John Williams yn gyfan gwbl y mis hwnnw a throsglwyddodd yntau hwynt ar unwaith i'r sefydliad newydd. Parhaodd i fod yn noddwr nodedig o haelionus i'r sefydliad hyd adeg ei farwolaeth 24 Mai 1926; cymynroddodd hefyd weddill ei gasgliad (sef pethau y dymunai ef eu cadw iddo'i hun yn ystod ei oes) a swm mawr o arian y trefnasai yn ei ewyllys fod y rhan fwyaf ohono i'w gadw dros byth er mwyn cynhyrchu incwm at dalu am ehangu adeiladau y Llyfrgell Genedlaethol. Symudasai o Blas Llansteffan i Aberystwyth yn gynnar ar ôl 1909. Bu ei wraig farw yn 1915. Claddwyd ef yng nghladdfa gyhoeddus Aberystwyth.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.