O gangen o deulu Wyniaid Glyn Cywarch, gerllaw Harlech, Sir Feirionnydd, yr oedd Wyniaid Peniarth, plwyf Llanegryn, yn deillio. Fel rhai teuluoedd eraill ym Meirionnydd y maent yn olrhain eu hach hyd at Osbwrn Wyddel. Cyhoeddwyd yn 1872, yn Llundain, Pedigree of the Family of Wynne, of Peniarth …, gwaith W. W. E. Wynne (isod), gwr na roi ddim ar glawr nes cael yn gyntaf brawf dilys ohono mewn cofysgrifau.
Yr oedd i KENRIC ab OSBWRN WYDDEL, Corsygedol - gweler Vaughan (Teulu) Corsygedol - fab, LLEWELYN AP KENRIC, yntau hefyd o Gorsygedol, a briododd â NEST (ferch ac aeres Gruffydd ab Adda, Dôl Goch ac Ynysmaengwyn, gerllaw Towyn - y mae beddrod Gruffydd ab Adda yn eglwys Towyn. O'r briodas hon fe ddisgynnodd - â'r llinell uniongyrchol yn unig yr ymdrinir yma - EINION AP GRUFFYDD LLEWELYN, IEUAN ab EINION, RHYS AB IEUAN AB EINION (yr oedd i Rys frawd mwy adnabyddus, sef Dafydd ab Ieuan ab Einion, ac IEUAN AP RHYS, a briododd LAUREA, merch ac aeres Richard Bamville, Wirral, sir Gaer, ac a ddaeth drwy hynny i feddu Glyn(Cywarch). Yr oedd JOHN AB IEUAN yn byw yn Glyn ar 27 Tachwedd 1545. Mab iddo ef oedd ROBERT WYN AP JOHN (bu farw 1589), a briododd â Katherine, ferch Ellis ap Maurice, Clenennau, Sir Gaernarfon (siryf Meirionnydd yn 1541) a mab o'r briodas hon oedd WILLLIAM WYNNE (bu farw 1658); Glyn, gwraig yr hwn oedd Katherine (bu farw 23 Chwefror 1638/9), plentyn hynaf William Lewis Annwyl, Parc, Llanfrothen. Mab iddynt hwy oedd ROBERT WYNNE (bu farw 1670), Glyn a Sylfaen, a briododd Katherine, merch hynaf ac aeres Robert Owen, Ystumcegid, Sir Gaernarfon.
Pedwerydd mab Robert Wynne a Katherine (Owen) oedd WILLIAM WYNNE I (bu farw 1700), a ddaeth i feddu'r Wern, plwyf Penmorfa, Sir Gaernarfon, drwy briodi ei gyfnither, Elizabeth, merch ac aeres Maurice Jones, Wern. Dilynwyd William Wynne I gan WILLIAM WYNNE II (bu farw 1721), Wern, a briododd Catherine (Goodman), ac a ddaeth yn dad WILLIAM WYNNE III (1708 - 1766). William Wynne ac Ellinor, merch Griffith Williams, Llandegwning ac Abercain, clerigwr, oedd rhieni WILLIAM WYNNE IV (1745 - 1796), Wern a Peniarth. Priododd ef â Jane, merch ac aeres Edward Williams a'i wraig Jane, arglwyddes Bulkeley (1740 - 1811) - yr arglwyddes yn ferch ac aeres LEWIS OWEN, Peniarth, ' Custos Rotulorum ' Sir Feirionnydd - gweler yr erthygl ar Owen (teulu), Peniarth. Mab hynaf y briodas rhwng William Wynne IV a Jane oedd WILLIAM WYNNE V (1774 - 1834). Dyma'r gwr a werthodd y Wern (gweler dan Wardle, G. Ll.) gan fyw yn Peniarth; bu'n siryf Meirionnydd yn 1812. Priododd William Wynne V, yn 1800, ag Elizabeth, merch ieuengaf a chyd-aeres Philip Puleston, D.D., Pickhill Hall, sir Ddinbych, rheithor Worthenbury a ficer Rhiwabon, a'i wraig Annabella, merch hynaf ac aeres (maes o law) Richard Williams, Penbedw (brawd iau Syr Watkin Williams Wynn, 3ydd barwnig, Wynnstay). Mab hynaf y briodas oedd William Watkin Edward Wynne (1801 - 1880). Yr oedd i William Wynne V frawd, Richard Owen Wynne, prif farnwr Dacca, Bengal, a fu farw yn India yn 1821, a dwy chwaer - Elizabeth Wynne (1777 - 1834), gwraig Charles James Apperley oedd un ohonynt.
Disgrifir gyrfa WILLIAM WATKIN EDWARD WYNNE (1801 - 1880) yn bur fanwl (gan G. Tibbott) yn Cylchgrawn Cymdeithas Hanes Sir Feirionnydd, i, 69-76. Ganed ef yn Pickhill Hall, 23 Rhagfyr 1801, a chafodd ei addysg yn Ysgol Westminster (1814) a Choleg Iesu, Rhydychen (ymaelodi 24 Mawrth 1820). Priododd, 8 Mai 1839, â Mary, merch Robert Aglionby Slaney, aelod seneddol dros adran Amwythig. Cafwyd dau fab o'r briodas, sef William Robert Maurice Wynne ac Owen Slaney Wynne (1842 - 1908). Bu W. W. E. Wynne yn aelod seneddol sir Feirionnydd am 13 mlynedd (etholwyd yn 1852) ac yn uchel-siryf (1867); yr oedd hefyd yn ddirprwy-raglaw y sir, yn ustus heddwch, ac yn gwnstabl castell Harlech (penodwyd yn 1874). Fel hynafiaethydd, achyddwr, a hanesydd, fodd bynnag, y coffeir ef yn bennaf; etholwyd ef yn llywydd y Cambrian Archaeological Association yn 1850 ac y mae ganddo tua 40 o erthyglau a nodiadau yn Archæologia Cambrensis. Yr oedd yn achyddwr dihafal. Daethai llawysgrifau Hengwrt (gweler yr erthygl ar Robert Vaughan, Hengwrt) iddo o dan ewyllys Syr Robert Williames Vaughan, y 3ydd barwnig, Nannau, a fu farw yn 1859 - yr oedd amryw lawysgrifau eraill yn Peniarth eisoes (e.e. daethai llyfrgell Penbedw i'w feddiant). Yr oedd yn herwydd ei feithriniad a'i dueddfryd yn geidwad heb ei ail o'r llawysgrifau ac yn fedrus tu hwnt gyda'r gwaith o'u darllen a'u defnyddio. Gwnaeth gatalog ohonynt - gweler Archæologia Cambrensis am y blynyddoedd 1861 hyd 1871. Yr oedd yn barod hefyd i helpu gwir ymchwilwyr ac yn brysur yn ateb cwestiynau a anfonid iddo ynglyn â chynnwys y llawysgrifau. Rhoes gymorth mawr i lu o ysgolheigion - e.e. Joseph Morris, Amwythig, achydd; John Jones, Llanllyfni, hynafiaethydd; Syr Henry Ellis (gweler y Record of Kaernarvon), Edward Breese, a Syr Samuel Rush Meyrick; ceir nodiadau gwerthfawr ganddo yn Kalendars of Gwynedd Breese ac yn argraffiad Meyrick o Visitations Lewis Dwnn. Heblaw ei gyfraniadau i Archæologia Cambrensis bu Wynne yn ysgrifennu i Bye-Gones, Miscellanea Genealogica et Heraldica, Mont. Coll., Y Cymmrodor. Cyhoeddodd A … Guide to Harlech Castle (London, 1878), a Hist. of the Parish of Llanegryn (London, 1879), eithr ni lwyddodd i gwpläu ei waith ar argraffiad newydd o John Davies, A Display of Herauldry. Heblaw hyn oll yr oedd yn weithgar yn ei ardal a'i sir mewn llu o gyfeiriadau. Bu farw 9 Mehefin 1880 chladdwyd ef yn Llanegryn. [Daeth yn drwm dan ddylanwad 'Mudiad Rhydychen,' a bu'n gefn i Griffith Arthur Jones yn Llanegryn; naturiol fu i'w sêl hynafiaethol ei arwain i fawr ofal (1876) dros hen eglwys ddiddorol y plwyf.] Pan fu farw yr ail o'i feibion yn gynnar yn 1909, daeth Llawysgrifau Hengwrt-Peniarth yn eiddo i'r genedl Gymreig trwy drefniant a wnaethai Syr John Williams, barwnig, ychydig flynyddoedd cyn hynny. Gweler hefyd Owen (Teulu), Peniarth.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.