APPERLEY, CHARLES JAMES (1779 - 1843), awdur llyfrau ac ysgrifau ar hela, rhedegfeydd ceffylau, etc., dan y ffugenw ' Nimrod '.

Enw: Charles James Apperley
Ffugenw: Nimrod
Dyddiad geni: 1779
Dyddiad marw: 1843
Priod: Winifred Apperley (née Wynn)
Plentyn: William Wynne Apperley
Rhiant: Thomas Apperley
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: awdur llyfrau ac ysgrifau ar hela, rhedegfeydd ceffylau, etc.
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Natur ac Amaethyddiaeth; Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Edward Morgan Humphreys

Ganwyd ym Mhlas Gronow (a chwalwyd weithian) ger Wrecsam, 1779, ail fab Thomas Apperley; ei fam yn ferch i William Wynn, Maes y Neuadd, Talsarnau, Meirion, rheithor Llangynhafal. Aeth i ysgol Rugby, 1790; yn 1798 penodwyd ef yn gornet yng nghatrawd Syr Watkin Williams Wynn, yr ' Ancient British Light Dragoons,' a bu gyda'r gatrawd yn Iwerddon. Yn 1801 priododd Winifred, merch William Wynn, Peniarth, Meirion, ac o 1813 hyd 1819 bu'n oruchwyliwr ystad ei frawd-yng-nghyfraith yn Sir Gaernarfon, gan fyw yn y Tŷ Gwyn, Llanbeblig, ger Caernarfon. Yn ei hunangofiant, My Life and Times, y mae ganddo bennod ar 'hela o Lanbeblig.' Wedyn bu'n byw mewn gwahanol leoedd yn Lloegr, yn amaethu ac yn hela.

Collodd y rhan fwyaf o'i arian ac yn 1822 dechreuodd ysgrifennu i'r Sporting Magazine dan yr enw ' Nimrod.' Tynnodd ei ysgrifau sylw ar unwaith a chynyddodd cylchrediad y Sporting Magazine, ond yr oedd ei ofynwyr yn pwyso arno a bu rhaid i Apperley fyned i fyw i Calais yn 1830. Dychwelodd i Loegr yn 1842, a bu farw yn Upper Belgrave Place, Pimlico, 19 Mai 1843. Bu ei ail fab, Major WILLIAM WYNNE APPERLEY, swyddog ym myddin India, farw ym Morben, ger Machynlleth, 25 Ebrill 1872.

Ymhlith y llyfrau a ysgrifennodd Apperley y mae The Chace, the Road and the Turf (1837), Memoirs of the Life of John Mytton (1837), The Life of a Sportsman (1842), a Hunting Reminiscences (1843). Yn ystod yr amser y bu yn Ffrainc bu yn aelod o staff y Sporting Review, ac, ar gais J. G. Lockhart, ysgrifennodd i'r Quarterly Review ar 'Melton Mowbray,' 'The Road,' a 'The Turf.' Yn ei hunangofiant ceir darlun diddorol o fywyd y dosbarth tiriog yng Nghymru tan ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.