DAVIES, JOHN (1652 - post 1716, Rhiwlas, Llansilin, sir Ddinbych, achyddwr

Enw: John Davies
Dyddiad geni: 1652
Dyddiad marw: post 1716
Priod: Margaret Davies (née Lloyd)
Plentyn: Jane Davies
Plentyn: Margaret Davies
Plentyn: Edward Davies
Rhiant: Margaret ferch William Llwyd ap Rowland
Rhiant: Edward Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: achyddwr
Place: Rhiwlas Llansilin sir Ddinbych
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Evan John Jones

Yn ôl Archæologia Cambrensis, 1888, 51, ganwyd John Davies ar y 10 Hydref 1652. Yr oedd yn fab i Edward Davies o'r Rhiwlas (20 Chwefror 1618 - 14 Mawrth 1680) a Margaret, unig ferch William Llwyd ap Rowland o Goed y Rhygyn yn Nhrawsfynydd. (Gweler Pen. MS. 145 (71), Powys Fadog, iv, 353, Display of Heraldry, 47.) Ei daid oedd Dafydd ab Edward ap Dafydd ab Ieuan o'r Rhiwlas a'i nain Gwen Gryffydd (bu farw 1640), merch Gruffydd ap Lewis o'r Golfa, yn Llansilin. Yn ôl ewyllys Dafydd ab Edward, dyddiedig 1624, daeth yr Henblas yn eiddo i'r mab hynaf, Edward, a chafodd Thomas, yr ail fab, Tyddyn Pant Disilio. Mae'n debygol mai'r Henblas oedd ei gartref drwy ei oes (gweler Bye-Gones, 1930). Yr oedd, hyd yn ddiweddar, hen ffermdy o'r enw Maensilio yn Llansilin, ac ynddo, ar un o'r trawstiau, y llythrennau J.D. wedi eu naddu, a'r dyddiad 1696. Pur annhebyg, er hynny, ydyw mai at y John Davies hwn y cyfeiriant. (Bye-Gones, 1898, 1930.)

Ceir gwybodaeth am ei briodas gan Mr. David Watkins yn ei draethawd anghyhoeddedig ‘Welsh Historiography in the 17th Cent’. (1955). Yng nghopi'r esgob o gofrestr plwyf Llansilin, cofnodir bedyddio Margaret, merch John Davies a Margaret, ei wraig, o Riwlas, ar 27 Mai 1685. (Ganwyd y plentyn 24 Mai 1685, a bu farw yn 1695; buasai mab, Edward, a aned 9 Tachwedd 1683, farw ar 14 Chwefror 1684, a ganwyd merch arall, Jane, 11 Ionawr 1688 — Pen. MS. 144, 269). Claddwyd Margaret, y wraig, 21 Ebrill 1719. Yn ôl Mr. Watkins (o S. Asaph M.B. 41 yn Ll.G.C.) Thomas Lloyd o Lanwddyn oedd ei thad hi.

Ychydig o wybodaeth sydd ar gael am John Davies. Olrheiniai ei ach i Riwallon ap Cynfyn ap Bleddyn ap Cynfyn. Perthynai i deuluoedd cefnog yr ardal, a chyfrifai ymhlith ei gyfeillion nifer a ymddiddorai mewn hynafiaeth, achyddiaeth, a chelfyddyd arfau. Ymhlith y rhain ceir William Maurice o Gefn-y-braich, Llansilin, hynafiaethydd, Lewis Jones o'r Ty yn yr Wtra a Hirddôl, hynafiaethydd, Evan Llwyd Jeffrey o'r Golfa Isa (Sycharth), boneddwr a bardd, a Watcyn Clywedog, bardd a chyfaill teulu ei daid. Yr oedd ei dad hefyd yn hynafiaethydd, ac ef oedd piau Pen. MSS. 144 a 145. Yn y llawysgrifau hyn ceir ychwanegiadau gan John Davies ei hun. Y mae pedair cyfrol o lawysgrifau John Davies yn yr Amgueddfa Brydeinig (B.M. Addl. MSS. 9864-7). Yn y rhai hyn gellir gweld dyled John Davies i lafur Lewys Dwnn.

Yn y flwyddyn 1716 argraffwyd ei lyfr, A Display of Herauldry, gan John Roderick. Y mae'r llyfr yn cynnwys manylion diddorol a gwerthfawr, yn enwedig ynghylch teuluoedd y Gogledd. (Gweler Moule, Bibliotheca Heraldica, 296-7).

Ar gais Thomas Mostyn, Gloddaeth, copïodd John Davies lawysgrif Lewys Dwnn a gynhwysai achau ac arfau gwyr bonheddig siroedd Môn, Caernarfon, a Meirionydd. Yr oedd y llawysgrif ar y pryd ynghadw gan Lewis Owen, Peniarth; gorffennwyd y gwaith yn 1685, a cheir ef yng nghasgliad Syr S. R. Meyrick, Heraldic Visitations of Wales, ii. Tystiodd John Davies ac un William Hughes i gywirdeb adroddiad Lewys Dwnn.

Eglura marwolaeth gynnar ei fab paham yr aeth llawysgrifau Davies i ddwylo ei nai, JOHN REYNOLDS o Groesoswallt (gweler Archæologia Cambrensis, loc. cit.) Mab ydoedd hwn i Jacob Reynolds o'r Waun, a Gwen, chwaer John Davies. Yr oedd John Reynolds yntau'n hynafiaethydd; gwnaeth ddefnydd helaeth o waith ei ewythr pan baratôdd i'r wasg ei lyfr The Scripture Genealogy, 1739.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/