WATCYN CLYWEDOG (fl., c. 1630-50), bardd
Enw: Watcyn Clywedog
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: David James Bowen
Ceir tua 50 o'i gywyddau mewn llawysgrif yn ogystal â llawer o englynion. Estynnai ei gylch clera dros siroedd Môn, Caernarfon, a Dinbych, ac yr oedd iddo nawdd yn y Berth Ddu, Bodfel, Bodwrdda, Hendre Fawr, Llannor, Llwydiarth, Plas-y-ward, a Saethon. Y mae dros hanner ei waith yn gywyddau marwnad, a chanwyd un o'r rhain i'r cyrnol Richard Bulkeley a laddwyd mewn ymryson cleddyfau ar draeth y Lafan, 19 Chwefror 1649/50. Canodd hefyd i dŷ newydd Dr. John Davies, Mallwyd yn 1630. Dengys ei gywyddau mawl, marwnad, gofyn, cymod, cyngor, a phriodas, fel y ffynnai'r traddodiad nawdd o hyd yn yr ardaloedd hyn.
Awdur
- Yr Athro David James Bowen
Ffynonellau
-
Llawysgrifau Peniarth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 144, 151;
-
Llawysgrifau Mostyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 112, 165;
-
Llawysgrif Cwrtmawr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru 21;
-
Llawysgrif Brogyntyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 4;
-
Nantglyn Manuscripts 2, 3;
- 'Y Piser Hir'
-
NLW MSS 279, 431, 434, 5269, 5272, 6499, 8330;
- J. E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (1914)
- J. Fisher, The Cefn Coch MSS. two MSS. of Welsh poetry written principally during the 17th century (Lerpwl 1899)
Dolenni Ychwanegol
- Wikidata: Q20734562
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/