Cywiriadau

WARDLE, GWYLLYM LLOYD (1762? - 1833), anturwr

Enw: Gwyllym Lloyd Wardle
Dyddiad geni: 1762?
Dyddiad marw: 1833
Priod: Ellen Elizabeth Wardle (née Parry)
Rhiant: Catherine Lloyd Wardle (née Gwyllym)
Rhiant: Francis Wardle
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: anturwr
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teithio
Awdur: Robert Thomas Jenkins

yr adroddir ei yrfa fraith yn y D.N.B.; fel aelod seneddol (dros Okehampton, 1807) fe'i hynododd ei hunan gan ymosod ar gontractwyr dillad i'r fyddin, ac yn fwy fyth gan ymosod (1809) ar y dug York, pencadfridog y fyddin, ymosodiad a arweiniodd i ymddiswyddiad y dug. Enillodd hyn glod diderfyn iddo ar y pryd; cyflwynwyd ‘anerchiadau’ iddo gan nifer mawr o drefi'r deyrnas (e.e. gan Gaerfyrddin; Transactions of the Carmarthenshire Antiquarian Society and Field Club, xxii, 16), a chafodd ryddddinasyddiaeth Llundain — un o hyrwyddwyr hynny oedd ei gydwladwr Robert Waithman. Ond buan (1810) y diflannodd y poblogrwydd hwn, pan ddaeth i helyntion cyfreithiol ynglyn â Mrs. Clarke (gordderchwraig y dug York); collodd lawer o arian (a'i le yn y Senedd, yn 1812); wedi ffermio am beth amser yng Nghaint, gorfu arno ffoi i'r Cyfandir rhag ei ofynwyr. Bu farw yn Fflorens, 30 Tachwedd 1833, yn 71 oed.

Geilw cysylltiadau Wardle â Chymru am ryw gymaint o sylw. Ei dad oedd Francis Wardle, twrnai yng Nghaerlleon a welir yn gweithredu tua chanol y 18fed ganrif ynglyn â phrynu a gwerthu stadau yn Sir y Fflint. Fe brynodd ef ei hunan stad Hersedd (‘Hartsheath’) gerllaw'r Wyddgrug — Llwydiaid oedd yr hen berchenogion (Arch. Camb., 1875, 227-30; 1890, 311) — ond yng Nghaerlleon y ganwyd ei fab. ‘Gwillim’ oedd cyfenw morwynol gwraig Francis Wardle, ond ni wyddys a awgryma'r ‘Lloyd’ yn enw'r mab gyswllt rhyngddi â Llwydiaid Hersedd; yn y Twr gerllaw'r Wyddgrug y bu hi farw, 11 Awst 1811, yn 77 oed (Cheshire Sheaf, Rhagfyr 1929, 87). Ymunodd y mab yn 1794 â'r ‘Antient British Fencible Cavalry,’ catrawd a ffurfiwyd gan Syr Watkin Williams-Wynn, a bu'n brwydro yn Iwerddon o 1797 hyd 1799; yn 1796 yr oedd yn un o is-lywyddion Cymdeithas yr Hen Frutaniaid yn Llundain. Gwrthodwyd rhoi swydd iddo yn y fyddin reolaidd wedyn (ensynia pamffledwr ei fod wedi twyllo wrth brynu ceffylau i'r gatrawd), ond caniatawyd iddo radd milwriad pan ddiddymwyd y ‘Fencibles.’ Am rai blynyddoedd wedyn bu'n anturio yn Sir Gaernarfon. Yr oedd wedi ymbriodi ag Ellen Elizabeth Parry, un o ddwy aeres Love Parry o Fadryn; ei gyd-frawd-yng-nghyfraith oedd Thomas Parry Jones (‘Jones-Parry’ wedyn) o'r Llwyn Onn, Wrecsam (J. E. Griffith, Pedigrees, 224). Dywedid i Wardle (ac fe honnai yntau) gael ‘stadau mawrion’ gyda'r briodas hon; pan wnaed ef yn siryf Caernarfon yn 1803 disgrifir ef fel ‘of Wern Fawr’ (Llanbedrog), ond yn ôl J. E. Griffith, ei chwaer-yng-nghyfraith bioedd y Wern Fawr — drachefn, pan oedd yn siryf Môn (1802), priodolir ‘Cefn Coch’ yn stad iddo, ond nid ef bioedd honno. Eithr gwyddys i sicrwydd iddo brynu stad y Wern ym Mhenmorfa, hendre Wyniaid Peniarth (J. E. Griffith, op. cit., 343, ar waelod y ddalen), a dyna'r ardal y cysylltir Wardle â hi am rai blynyddoedd ar ôl 1802. Atynwyd ef (a Jones-Parry) i anturiaethau W. A. Madocks. Pan gododd Madocks ffatri frethyn a phandy a lliwdy yn Nhremadog, yr oedd Wardle yn bartner yn y cwmni a'i gweithiai (Gestiana, 170, 176), a chan fod y partner arall, Scott, yn ‘army clothier’ yn Llundain, hawdd yw deall coegsyndod pamffledwr at ymosodiadau Wardle yn y Senedd ar gontractwyr eraill. Allforiai'r cwmni frethyn i Ffrainc a hithau'n amser rhyfel, a phan gipiwyd un o'i longau, gyda'i llwyth, gan y llynges, aeth y cwmni'n ôl yn y byd — ensynia pamffledwr fod Wardle hefyd yn distyllu ‘gin’ yn Jersey ac yn ei smyglo i mewn i Loegr. Pwysicach yw'r rhan a gymerth Wardle a'r ddau arall yn y cynllun i newid y ffordd o Lundain i Ddulyn gan ddatblygu harbwr ym Mhortinllaen a chysylltu Portinllaen a Llundain (gweler Gestiana, 185-7); Wardle oedd cadeirydd cyfarfod cyhoeddus ym Mhwllheli yn 1808 i hyrwyddo torri'r ffordd newydd, ac yr oedd yn un o'r ‘trustees.’ Ond heblaw'r anffodion ariannol y cwympodd Madocks a Wardle iddynt, rhoes gwrthwynebiad cyndyn Caergybi derfyn ar y bwriad hwn, a allasai fod wedi newid bywyd economaidd Sir Gaernarfon yn ddirfawr. Gwerthwyd y Wern. A chaniatäu mai o eneuau gelynion Wardle y daw amryw o'r manylion sy'n dweud yn ei erbyn, erys yr argraff nad oedd yn ddyn y gellid canmol llawer arno.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

WARDLE, GWYLLYM LLOYD

Catherine Lloyd Gwyllym, merch ac aeres Richard Lloyd Gwyllym, Hersedd, oedd gwraig Francis Wardle, tad Gwilym Lloyd Wardle.

    Dyddiad cyhoeddi: 1970

    Cywiriadau