PARRY (a JONES-PARRY) (TEULU), Madryn, Llŷn

Nid Madryn oedd cartref cynhenid y Parrïaid. Y cyntaf o'r teulu yng Nghymru oedd GEOFFREY PARRY (bu farw 24 Ebrill 1658), swyddog ym myddin y Weriniaeth. Piwritan selog a hanoedd o blwyf Paston yn Sir Amwythig, ac a briododd ag un o ferched Cefn Llanfair (Llŷn) (J. E. Griffith, Pedigrees, 224); eu mab hwy oedd y LOVE PARRY cyntaf (1654 - 1707) - bu cynifer â chwech o'r enw 'Love' yn nhreigl y teulu - Eglwyswr mawr a roes gardodau lawer i eglwys Llanbedrog.

Ei ŵyr ef, a'r trydydd LOVE PARRY (1720 - 1778), a ddaeth â Madryn i'r teulu (ac a symudodd yno i fyw), drwy ei briodas â Sidney, gor-ŵyres Jane chwaer Owen Hughes ' yr Arian Mawr ' - yr oedd Owen Hughes wedi prynu stad Madryn gan William Madryn, yr olaf o'r hen deulu (Griffith, op. cit., 242). Ni thyfodd eu mab hwy (' Love ' eto) i oedran gŵr, ac yn 1780 priododd ei chwaer Margaret â'i chefnder THOMAS PARRY JONES -PARRY (1762 - 1835) o'r Llwyn Onn, Wrecsam. Daeth y gŵr hwn â chryfder adnewyddol i deulu Madryn drwy ei ddulliau manwl a'i wybodaeth o fyd busnes - bu ar y blaen (gyda'i gyd-frawd-yng-nghyfraith G. Ll. Wardle) i gael ffordd o Bortinllaen i'r Traeth Mawr, ac yn yr ymdrech aflwyddiannus i wneud Portinllaen yn 'packet-station' i Ddulyn.

Mab i hwn oedd Syr LOVE JONES -PARRY (1781 - 1853), 'yr hen Syr Love,' aelod seneddol dros fwrdeisdrefi Arfon yn 1837 a chadeirydd y frawdlys chwarterol am flynyddoedd

Mab iddo yntau oedd

Syr THOMAS LOVE DUNCOMBE JONES-PARRY (1832 - 1891), Aelod Seneddol

Ganwyd 6 Ionawr 1832. Daeth ef i gryn enwogrwydd yn 1868, fel Rhyddfrydwr, trwy gipio cynrychiolaeth sir Gaernarfon oddi ar fab yr arglwydd Penrhyn cyntaf; yn lecsiwn 1874 bu'n aflwyddiannus yn erbyn yr un gŵr; yn 1882 etholwyd ef dros y bwrdeisdrefi, ac eto yn 1885, ond collodd y sedd yn etholiad Gorffennaf 1886. Eisoes yn yr un flwyddyn cawsai siomedigaeth drom arall - cael ei anwybyddu gan Gladstone ym mhenodiad arglwydd-raglaw'r sir; ond lliniarwyd rhyw gymaint ar y siom drwy ei urddo'n farwnig. Nid oedd yn wleidyddwr mawr nac yn ymadroddwr huawdl, ond yr oedd ganddo stôr o synnwyr cyffredin a ffraethineb, fel y praw toreth fawr ei ddywediadau ar lafar gwlad. Yr oedd yn fwy amrywiol ei ddiddordebau na'r sgwïer cyffredin; yr oedd enw barddol ganddo, ac yr oedd yn gyfaill mawr i'r bardd 'Talhaiarn'; bu'n paratoi'r ffordd i sefydlu'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia; ac yr oedd ganddo feddwl mawr o Joseph Morris, pregethwr gyda'r Annibynwyr a fforman y gweithwyr ar stad Madryn. Bu farw 18 Rhagfyr 1891.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.