Ganwyd 19 Ionawr 1810 yn Nhafarn yr Harp, Llanfairtalhaiarn, sir Ddinbych. Cafodd ei addysg yn ysgol y Llan ac mewn ysgolion eraill yn Rhuddlan ac Abergele, ond daeth adref i ddysgu crefft ei dad, sef asiedydd. Pan oedd yn 15 oed prentisiwyd ef gyda phensaer o'r enw Ward, a arolygai ar y pryd blas yr arglwydd Bagot, Pool Park, Rhuthyn. Yn 1830 aeth i wasanaeth T. Penson (gweler dan Penson, R. K.), arolygydd pontydd siroedd Dinbych a Maldwyn, ac yn 1843 symudodd i Lundain yn bensaer yng nghwmni Mri. Scott a Moffatt, penseiri eglwysig. Gadawodd hwy yn 1851 ac ymuno â Syr Joseph Paxton, a bu yn un o arolygwyr gwaith y Plas Grisial yn Llundain, a phlas y barwn Meyer de Rothschild gerllaw Mentone, Ffrainc. Yn 1855 danfonwyd ef i Ffrainc i arolygu adeiladwaith plas y barwn James Rothschild, ac ymhen tair blynedd dychwelodd adref i adfer ei iechyd. Dychwelodd eilwaith at ei alwedigaeth, a bu'n arolygu gwaith plas yr iarll Russell yn Battlesden Park, swydd Bedford. Oherwydd ei afiechyd, y gymalwst, penderfynodd ymneilltuo, a daeth adref i'r Harp; bu farw drwy ei law ei hun ar 7 Hydref 1869.
Dyma restr o'i weithiau: Awdl y Greadigaeth … 1849; Eisteddfod Genhedlaethol Abertawe, 1863, Awdl er Coffadwriaeth am y diweddar Dywysog Cydweddog 'Albert Dda' … 1863; Gwaith Talhaiarn, y gyfrol gyntaf gan H. Williams, 1855, yr ail gan T. Piper, 1862, a'r drydedd gan W. J. Roberts, Llanrwst, 1869. Lluniodd eiriau Cymraeg ar Llywelyn, a dramatic cantata, 1864, ac ar The Bride of Neath Valley, 1867. Gwelir ei eiriau ar geinciau yn Welsh Melodies John Thomas ('Pencerdd Gwalia'), a lluniodd eiriau hefyd ar alawon i Brinley Richards, Blockley, 'Owain Alaw,' a J. D. Jones.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.