PENNANT (TEULU), Penrhyn, ger Llandegai

Arian India'r Gorllewin a sylfaenodd lwyddiant a ffortiwn y teulu; drwy briodas John Pennant a Bonella Hodges yn 1734 cyfunwyd dwy stad yn codi siwgr yn ynys Jamaica, plwyf Clarendon (gan mwyaf); cafodd John Pennant fendithion ychwanegol, eto yn Jamaica, drwy ewyllys ei frawd Samuel yn 1749, gŵr a fu unwaith yn arglwydd faer Llundain. Nid oedd ryfedd, felly, i'w fab Richard briodi (yn 1765) ag aeres teulu Warburtons o Winnington yn sir Gaerlleon, a etifeddasai un hanner o stad y Penrhyn; yn 1785 cwplaodd bryniant oddi wrth deulu Yonge o Ddyfnaint a etifeddasai'r hanner arall, a chyd-asio'r 'Warburton-Yonge moieties' y sonnir cymaint amdanynt yn llyfrau'r stad yn hanner cyntaf y 18fed ganrif. Nid dyn dod a dinod oedd John Pennant y tad; yn hytrach, tarddai o gyff enwog Pennantiaid Bychtwn a Downing yn Sir y Fflint, ac yr oedd yn aelod o'r un teulu, os o gangen ieuengach, â Thomas Pennant y teithiwr. Taid John Pennant, o'r enw Gifford Pennant, a fudodd i'r Gorllewin yng nghyfnod y Weriniaeth, prynu darnau helaeth o dir yn Jamaica, a marw yn 1677. Ymfalchïai Thomas Pennant yn ei berthynas a pherchennog newydd y Penrhyn, a mynnai fod y Pennantiaid hyn yn perthyn o bell i hen deulu gwreiddiol y lle, sef teulu'r tri Siamberlen a Pirs Griffith, drwy briodas un ohonynt, o gwmpas 1475-80, ag Angharad, merch Gwilym ap Gruffydd ap Gwilym o'r Penrhyn; ond nid hawdd cysoni hyn â helyntion Angharad a groniclir mewn tablau achau eraill. Yr oedd sicrach tir o lawer gan wraig Richard Pennant i brofi ei bod yn ddisgynnydd pell o deulu Cochwillan, ac o Robin, brawd Gwilym ap Gruffydd ap Gwilym.

RICHARD PENNANT (1737? - 1808)

Beth bynnag am y gwir gyswllt rhwng yr hen a'r newydd, nid oedd ddadl am bersonoliaeth bwerus Richard Pennant. Bywiogodd weithgarwch chwarel Cae-braich-y-cafn, cafodd (yn 1786) les ar dir Pen-y-bryn gan yr esgob Warren i godi'r cei, datblygodd y fasnach mewn llechi ysgrifennu, codi melinau llifio yng Nghoed-y-parc (cerrig llechi) a Nant Gwreiddiog (cerrig caled); llawn brwdfrydedd gyda gwneud ffordd newydd o Fangor i Gapel Curig, heblaw cadw golwg fanwl ryfeddol ar weithrediadau ei swyddogion ar y stadau siwgr yn Jamaica. Yn 1783 gwnaed ef yn arglwydd, ond cofier mai 'Irish peer' ydoedd, â'r hawl ganddo i eistedd yn Nhŷ'r Cyffredin ped etholid ef; bu'n aelod seneddol dros Lerpwl am gyfnod, a chamgymeriad mawr ei fywyd oedd ceisio (yn 1796) gipio cynrychiolaeth sir Gaernarfon oddi ar Syr Robert Williams, hanner brawd yr arglwydd Bulkeley o Fiwmares, heb gofio am nerthoedd mawrion y Bwcleaid yn y ddwy Arllechwedd, yn nhrefi Conwy a Chaernarfon, ac yn ardal Nant y Betws. Cafodd gurfa dost. Bu farw 21 Ionawr 1808.

Dilynwyd ef gan ei gefnder, a hwnnw gan ei fab-yng-nghyfraith

EDWARD GORDON DOUGLAS (1800 - 1886)

Ganwyd 0 Mehefin 1800; aelod o deulu pendefigaidd Douglas yn Sgotland (aeth y Pennant, drwy warant y frenhines, yn Douglas Pennant yn 1841), a godwyd yn arglwydd Penrhyn yn 1866 â hawl ganddo i eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi. Cyn hynny bu'n aelod dros sir Gaernarfon am chwarter canrif. Bu farw 31 Mawrth 1886. Ei fab ef, yr ail farwn (1836 - 1907), ganwyd 30 Medi 1836, a gollodd lecsiwn enwog 1868 i Syr Love Parry, ond a enillodd y sedd yn ei hôl yn 1874; ef hefyd, er yn feistr tir gyda'r gorau yn y wlad, oedd mewn rhyw anghydfod parhaus â chwarelwyr Bethesda. Bu farw 10 Mawrth 1907.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.