Un o deulu'r Penrhyn, Sir Gaernarfon; mab Sir Rhys a fu farw yn 1580. Ar farw ei dad daeth o dan ofal llys y 'Wards'; golygai hynny daflu golwg fanwl ar diroedd a rhenti'r stad; a diwedd y cwbl oedd talu'n ôl i Pirs Griffith swm da o arian y gwnaeth swyddwyr y llys hwnnw gamgymeriad yn ei gylch. Dywedir ei fod yn ysgarmesoedd yr Armada yn 1588, ond beirniadol iawn yw J. K. Laughton yn y D.N.B. ar y tystiolaethau a ddygir dros hynny; a dyfnheir amheuaeth ar y mater gan y ffaith fod Pirs o dan oed ar y pryd (ffaith na wyddai Laughton ddim amdani). Ysgwyd ei ben yn arw a wna'r awdurdod hwnnw ar ramant môr-hela y gŵr o'r Penrhyn; y mae'n fodlon cydnabod, ond yn bur ymarhous, ran Pirs yn yr afreoleidd-dra tu allan i Cork yn 1603; ond purion yw nodi'r ffaith anwadadwy a groniclir ym mhapurau preifat y Penrhyn (rhif 88) i gomisiwn ddod i lawr oddi wrth bobl y Llynges yn 1600 i roddi pris ar lwyth o olew, sidan, a nwyddau eraill oedd ar fwrdd llong Sbaenaidd o'r enw Speranza, ac a ddygwyd i mewn i Aber Cegin gan Pirs Griffith a'i ddynion. Efallai fod Griffith wedi ymuno ag anturiaethau Tomas Prys o Blas Iolyn; y mae'n wir fod enw Prys yn ymddangos yn rhai o ddogfennau'r Penrhyn (yn enwedig 119). Pa un ai'r dirwyon mawr a ddilynodd y gweithrediadau afreolaidd ar y môr a dlododd Pirs Griffith ai peidio, sicr yw iddo, rhwng 1600 a 1612, wystlo llawer o'i diroedd i Lundeinwyr cyfoethog fel Myddelton a Bateman; ym Medi 1614 wele ef yn gwystlo tir Cororion i'r Dr. Henry Rowlands, esgob Bangor. Yn 1616 yr oedd ei achos yn llys y Siansri; dywedir ddod ag ef i'r llys gan warden carchar y 'Fleet'; cyn diwedd y flwyddyn honno collasai Pirs bob rheolaeth effeithiol ar ei dda a'i diroedd. Yn ddiweddarach, drwy hir a chymhleth fargeinion, daeth y stad i gyd i feddiant yr Arglwydd Geidwad John Williams, y mwyaf o deulu Cochwillan, cangen arall o'r hen gyff. Yn 1622, disgrifir Pirs fel 'diweddar o'r Penrhyn'; yn 1623 yn Llundain y mae. Bu farw yn 1628, a chladdwyd ef yn Abaty Westminster. Bu farw ei blant o'i flaen. Fel 'Pirs' neu 'Pyrs' y cyfeirir ato bob amser, ond 'Perys' oedd ei ffordd ef o ysgrifennu ei enw.
Gweler ymhellach yr erthygl ar y teulu Griffith o'r Penrhyn.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.