MADRYN, o Fadryn (Llŷn).

Camgymeriad go fawr yw credu taw teulu Syr Love Jones Parry oedd deiliaid gwreiddiol y stad; ni ddaethant hwy yno hyd ar ôl priodas y trydydd Love Parry o Gefnllanfair â Sidney Lewis yn 1763; ac nid oedd gan yr un o'r ddau y cyswllt lleiaf â'r hen deulu. Yr oedd y Madryniaid wedi gwreiddio'n ddwfn ym mhlwyfi Llandudwen a Cheidio ers cenedlaethau, gan anfon allan ganghennau i sefydlu yng Ngharngiwch a'r Llannerch Fawr. Bu un ohonynt, THOMAS MADRYN, mewn cryn brofedigaethau yn oes Elisabeth gyda boneddigion eraill o Lŷn oherwydd stremp uchelgeisiol iarll Leicester; priododd ei fab ef, ROBERT MADRYN, i deulu Bodfel (y wraig gyntaf) a Chefn Amwlch (yr ail). Ŵyr i Robert oedd THOMAS MADRYN, yr enwocaf o'r teulu; cyrnol ym myddin y Senedd, siryf yn 1648-9 (a chyn hynny yn 1643), aelod seneddol dros sir Gaernarfon, 1654-5; daliai amryw swyddi pwysfawr eraill yn siroedd Môn ac Arfon. Nid bychan oedd ei ddylanwad: medrodd gadw'r offeiriad John Gethin, priod ei chwaer Dorothy, ym mywoliaeth Llangybi ar ôl colli Cricieth o dan Ddeddf y Taeniad; medrodd rwyddhau'r ffordd i'w berthynas Thomas Meredith, prifathro Ysgol Friars ym Mangor, i fyned i fyny i Lundain yn 1647 i sicrhau ôl-ddyledion yr ysgol honno; ac yr oedd yn eistedd ar y pwyllgor i archwilio ei chyfrifon yn 1650. Er i'w enw sefyll ar ben y rhes o Sir Gaernarfon yn anfon llongyfarch i'r Diffynnwr newydd yn 1658, er darganfod bwndeli o bistolau ym Madryn yn 1661, diwedd Thomas Madryn oedd cydymffurfio â'r drefn newydd, a dod yn siryf o dan Siarl II yn 1665-6. Bu THOMAS MADRYN, ei fab, farw yn 1688; dilynwyd ef gan ei frawd WILLIAM MADRYN; gwerthodd hwnnw stad y Madryniaid i Owen Hughes, y twrnai cyfoethog o Fiwmares, a gorŵyres i Jane, ei chwaer ef, oedd y Sidney Lewis y cyfeiriwyd ati eisoes.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.